Bydd band enwog o Kenya, Les Mangelepa, yn chwarae yn Methesda ddydd Gwener i ddathlu Mis Hanes Pobol Dduon.
Maen nhw’n dod yn wreiddiol o Ddwyrain Congo ac yn perfformio yn yr iaith Swahili ac, yn ôl Dilwyn Llwyd, rheolwr Neuadd Ogwen, mae gan y digwyddiad arwyddocâd arbennig i’r ardal.
Mae’n ffordd, meddai, o atgoffa pobol fod Bethesda wedi’i ddatblygu gydag arian caethwasiaeth – “mae i gyd yn ymwneud â chydraddoldeb a lle ydan ni eisio bod rŵan a chydnabod y gorffennol.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni fel canolfan gelfyddydau yn cydnabod dyddiadau pwysig fel Mis Hanes Pobol Dduon, a bod o’n ddathliad.”
Pobol yn dod at ei gilydd
Roedd nifer o gymdeithasau o gefndiroedd gwahanol wedi dod at ei gilydd i drefnu’r perfformiad, meddai Dilwyn Llwyd – gan gynnwys Cymdeithas Jamaica , Race Council Cymrua Chymdeithas Hanes Pobol Dduon Cymru.
“Ar ddiwedd y gân mae hi jyst yn mynd i fod yn gerddoriaeth wych,” meddai. “Mae o’n adloniant ond mae o’n fwy na hynny yndi?
“I fi, mae o’n ymwneud â sut ydach chi am siapio’r dyfodol, sut fath o gymdeithas ydan ni eisio bod fel cymdeithas Gymraeg. Ac ydan ni’n tueddu i gael cefnogaeth eitha eang: dim jyst Cymry Cymraeg sy’n dod i ddigwyddiad fel hyn.
“Swn i’n gobeithio bod yna lot o Gymry Cymraeg yn dod, ond dros y blynyddoedd ddwetha ma’ hi jyst wedi bod yn drawstoriad, sy’n dda, achos dyna be ydach chi eisio, ydach chi eisio tynnu pobol at ei gilydd,
“Dangos beth sy’n debyg ym mhawb yn hytrach be sy’n wahanol ym mhawb”.
Yr hanes
“Roedd Arglwydd Penrhyn, cyn iddo ddechrau rhoi pres mewn i’w chwareli ym Methesda, yn rhedeg planhigfeydd yn Jamaica, gan mwya’, yn y Caribî,” meddai Dilwyn Llwyd.
“Ac wedyn o gwmpas 1830 – yr amser yna aeth caethwasiaeth yn anghyfreithlon – fe wnaeth Llywodraeth Prydain dalu am y caethweision i’w rhyddhau nhw oddi wrth y bobol oedd yn eu piau nhw.
“Roedd Penrhyn piau nifer fawr o gaethweision, ac roedden nhw’n defnyddio’r pres hwnna wedyn i ddatblygu busnes y chwareli ym Methesda.
“Mi oedd na brosiect gwpwl o flynyddoedd yn ôl yn lleol ynglŷn â hynny o’r enw Siwgr a Llechen ac mae na lot o hanesion eraill hefyd ynglŷn â rhan Cymru mewn caethwasiaeth a cham-drin pobl dduon yn y gorffennol.”