🧩🧸SESIWN BABI ACTIF PLAS FFRANCON, BETHESDA🧸🧩
**SESIWN NEWYDD BOB DYDD LLUN**
Dyma sesiwn Ti a Fi i blant 0 – 4 oed yn Byw’n Iach Plas Ffrancon.
Mae’r Cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle i blant gyfarfod yn rheolaidd gyda rhieni/gwarchodwyr a phlant eraill er mwyn cyfle i fwynhau gyda’i gilydd gan roi cyfle ichi gymdeithasu dros baned. Mae’n gyfle gwych i rieni/gwarchodwyr gwrdd i rannu profiadau a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymreig. Rydym fel un teulu mawr!
Wrth fynd i’r Cylch Ti a Fi bydd eich plentyn yn cael cyfle i:
• fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau bach newydd
• chwarae gyda phob math o deganau
• dysgu caneuon bach syml y gallwch eu canu gyda’ch gilydd gartref
• gwrando ar storïau
• a mwynhau drwy’r Gymraeg!
Pris? £3 bob plentyn
Pryd? Bob Dydd Llun 12:30 – 13:30 / Bob dydd Mawrth rhwng 11:00 – 12:00
Archebwch le drwy gysylltu efo’r ganolfan 01248 601515.