Teithiau cerdded Cwm Idwal

Cyfres o deithiau’n cael eu cynnal dris yr haf

Carwyn
gan Carwyn
IMG_2466

Mae yna nifer o deithiau cerdded wedi eu trefnu ar gyfer Cwm Idwal dros yr haf.

Bydd y teithiau am ddim yn cael eu trefnu gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn cydweithrediad efo Parc Cenedlaethol Eryri a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mae Partneriaeth Ogwen hefyd yn rhan o’r teithiau, gan gynnig bws am ddim i unrhyw un sydd angen trafnidiaeth i gyrraedd Cwm Idwal.

Cynhelir y teithiau cerdded ar:

  • 6 Awst
  • 14 Awst
  • 21 Awst (taith gyda storïwraig)
  • 28 Awst

Bydd bws am ddim gan Bws Ogwen yn gadael o flaen yr Hen Bost ym Methesda am 9.30am.

I archebu lle, e-bostiwch rhys.wheldonroberts@nationaltrust.org.uk neu ffoniwch 01248 605535 / 07977 596517.