Eleni fe fydd gyfres o deithiau cerdded yn cael eu cynnal yng Nghwm Idwal a fydd yn cynnig ymarferion meddwlgarwch, hanes a chwedlau lleol a’r cyfle i fwynhau a gwerthfawrogi natur.
Bydd teithiau meddwlgarwch yn cael eu cynnal ar 24 Mawrth, 28 Gorffennaf, 18 Awst a’r 27 Hydref lle fyddwch yn cael eich tywys o amgylch Llyn Idwal gan stopio o bryd i’w gilydd i wneud ymarferion meddwlgarwch wrth fwynhau’r natur o’ch cwmpas. Nid yw’r teithiau meddwlgarwch yn addas i blant o dan 18 ac ni ddylid dod a chŵn.
Ar 28 Ebrill fe fydd Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal yn eich tywys ar daith o gwmpas Cwm Idwal, gan sylwi, dysgu a mwynhau’r natur o’ch cwmpas sydd ar ei orau adeg hynny o’r flwyddyn.
Ar 16 Mehefin fe fydd cyfle i fynd ar daith gerdded chwedlau gyda stori-wraig lleol a Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal yn eich tywys. Fe fyddwch yn mynd o amgylch Llyn Idwal ac yn clywed hanes a chwedlau sydd yn gysylltiedig gyda Chwm Idwal ag Eryri.
Mae’r daith gerdded chwedlau a’r daith gerdded natur yn addas i oedolion a phlant dros 11 oed.
Bydd y teithiau i gyd yn dechrau am 9:30am o flaen Canolfan Cwm Idwal.
Rhaid archebu lle o flaen llaw. I wneud hynny, cysylltwch gyda Rhys Wheldon-Roberts drwy e-bostio rhys.wheldonroberts@nationaltrust.org.uk neu ffoniwch 01248 605535 / 07977 596517.
Ar adegau prysur mae’r lleoedd parcio cyfyngedig yn llenwi’n gyflym. Cofiwch fod hi’n bosib dal y gwasanaeth bws T10 i Gwm Idwal hefyd. Am fwy o wybodaeth ewch i www.cwmidwal.cymru