Taith Tractors yn codi arian at Sioe Dyffryn Ogwen

Y daith hwyliog yn cael ei chynnal ar 15 Rhagfyr

Carwyn
gan Carwyn

Mae taith tractors arbennig yn cael ei chynnal fis Rhagfyr, gyda’r elw yn mynd tuag at Sioe Dyffryn Ogwen.

Bydd y Daith Tractors yn cychwyn a gorffen yng Nghlwb Rygbi Bethesda, gyda’r daith yn mynd o amgylch pentrefi Dyffryn Ogwen, felly bydd cyfle i bawb fod allan i gefnogi’r daith a chyfrannu at y sioe.

“Y prif reswm dros gynnal y daith ydi i godi arian at Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen, ond hefyd i gynnig rhywbeth gwahanol i drigolion yr ardal cyn y Nadolig. Hyd y gwn i does na ddim o’i fath wedi bod yn Nyffryn Ogwen,” meddai un o’r trefnwyr Elin Rhys.

“Mi ydan ni eisiau annog unigolion i gofrestru fel ein bod a syniad o ran niferoedd i allu cynllunio. Mae yna lot o ddiddordeb, ond mae’n bwysig fod unrhyw un sydd am gymryd rhan yn cofrestru o flaen llaw er mwyn i ni allu cynllunio.”

Cost cymryd rhan fydd £20 y tractor, a fydd yn cynnwys tocyn bwyd, gyda £5 ychwanegol ar gyfer pob teithiwr. Bydd rhaid i bob teithiwr tractor fod yn 13 oed neu’n hŷn, ac mae angen cofrestru’r tractors o flaen llaw.

I roi gwybod os ydych yn bwriadu bod yn rhan, e-bostiwch y trefnwyr ar heddacelin@yahoo.co.uk neu ffonio Hedd Rhys ar 07765860643 neu Elin Rhys ar 07747018421.

Dweud eich dweud