Ras Siôn Corn er budd Carnifal Bethesda

Ras ar dydd Sadwrn, 21 Rhagfyr yn cychwyn o’r Clwb Rygbi

Carwyn
gan Carwyn
Ras-Sion-Corn

Mae trefnwyr Carnifal Bethesda yn cwblhau trefniadau olaf ar gyfer y Ras Siôn Corn blynyddol fydd yn cael ei chynnal ar ddydd Sadwrn, 21 Rhagfyr 2024.

Fel yr arfer, bydd y digwyddiad teuluol yma yn ‘ras’ hwyliog sy’n addas ar gyfer y teulu cyfan. Mae croeso i chi redeg, loncian neu gerdded y llwybr 5k o’r Clwb Rygbi ar hyd Lôn Las Ogwen i Dregarth ac yn ôl.

Bydd pawb sy’n cofrestru yn derbyn het Siôn Corn ac mae anogaeth i chi wisgo siwmper neu wisg Nadoligaidd eich hun i ychwanegu at naws y Nadolig.

“Rydym yn gwahodd pawb i ddod draw i ymuno yn yr hwyl – unai fel cefnogwr, cyfranogwr neu wirfoddolwr – byddwn yn ddiolchgar IAWN am unrhyw gefnogaeth sydd i’w gynnig,” meddai’r trefnwyr ar Facebook.

Pris cystadlu yn £5 i oedolion – sy’n cynnwys het Siôn Corn, a £2.50 i blant. Am ddim i blant dan 2 oed.

Bydd y cofrestru’n cynnwys am 1pm, gyda’r ras ei hun yn dechrau am 2pm.

Cofrestru a thalu trwy Paypal: @carnifalbethesda2023

Dweud eich dweud