Rhybudd am barcio ar linellau melyn ar y Stryd Fawr

Heddlu yn galw ar fodurwyr i barchu’r rheolau

Mae’r Heddlu wedi galw ar fodurwyr i barchu rheolau a pheidio parcio ar linellau melyn ar Stryd Fawr Bethesda.

“Rydym wedi derbyn pryderon gan y gymuned mewn perthynas â cherbydau yn parcio mewn modd peryglus ar Stryd Fawr Bethesda,” meddai’r neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae’r pryderon yn tueddu i gynnwys aelodau o’r cyhoedd yn parcio eu cerbydau ar linellau melyn dwbl er mwyn casglu bwyd tecawe.

“Er ein bod yn sylweddoli nad yw’r sefyllfa barcio yn wych ar hyd y Stryd Fawr, gofynnwn i yrwyr ystyried y risg y gallent fod yn ei achosi i eraill wrth adael eu cerbydau mewn man peryglus.”

Mae gan yr Heddlu a’r Cyngor bwerau gorfodaeth ond noda’r llu eu bod yn ffafrio addysgu er mwyn atal damweiniau. Gair i gall felly!

Dweud eich dweud