Rhannu profiadau am fuddion ynni adnewyddadwy

Rhwydwaith Sero Net Gogledd Cymru – cyhoeddi fideo newydd am waith arloesol Ynni Ogwen

Ynni Ogwen
gan Ynni Ogwen

Rydym yn hapus i allu rhannu’r fideo newydd yma am ein profiad o ddatblygu ynni adnewyddadwy er budd y gymuned.

Fe’i dangoswyd am y tro cyntaf yn nigwyddiad Rhwydwaith Sero Net Gogledd Cymru wythnos yn ôl.

Diolch yn fawr i Gyngor Busnes Gogledd Cymru am eu diddordeb yn ein gwaith ac am gomisiynu’r fideo a chaniatáu i ni ei ddefnyddio.