Plas Ffrancon yn cynnig Haf o Hwyl

Llu o weithgareddau wedi eu rhaglennu

Carwyn
gan Carwyn

Mae’n wyliau ysgol, ond does neb wedi dweud wrth y tywydd yn amlwg!

Er gwaetha’r tywydd ciami, mae yna lond gwlad o weithgareddau hwyliog ar gael i blant draw ym Mhlas Ffrancon, Bethesda dros wyliau’r haf eleni.

Mae yna rywbeth bob diwrnod yr wythnos i gadw plant o bob oed yn hapus – gyda gweithgareddau i blant o 0 i 15!

Yn sesiynau chwarae meddal, ffitrwydd, camp chwaraeon a gymnasteg, mae yna rywbeth i gadw pawb yn hapus trwy gydol y gwyliau.

Am fwy o fanylion ac i archebu lle, ewch draw i wefan Byw’n Iach.