Mae’r Cynghorydd Sir lleol, Paul Rowlinson wedi ei benodi yn Aelod Cabinet Cyllid newydd Cyngor Gwynedd
A hithau’n ddechrau blwyddyn ariannol newydd, bydd y Cynghorydd Paul Rowlinson – yr aelod lleol dros ward Rachub – yn cymryd yr awenau, ac yn arwain ar faterion refeniw, cyfrifeg, pensiynau a thechnoleg gwybodaeth yr awdurdod.
Daw hyn wedi i’r Cynghorydd Ioan Thomas gamu lawr fel Aelod Cyllid wedi cyfanswm o 12 mlynedd o wasanaeth ar Gabinet Cyngor Gwynedd. Bydd y Cynghorydd Thomas yn parhau fel aelod lleol dros ward Menai (Caernarfon).
Braint
Meddai’r Cynghorydd Paul Rowlinson: “Mae’n fraint cael fy mhenodi i’r Cabinet ac ymgymryd â’r maes allweddol hwn.
“Diolch i arweinyddiaeth fy rhagflaenydd a gwaith caled y swyddogion medrus yn yr Adran Gyllid, rydw i’n hyderus y gallwn barhau i wneud popeth posib i amddiffyn gwasanaethau lleol yma yng Ngwynedd er gwaetha’r sefyllfa ariannol argyfyngus sy’n ein hwynebu.
“Rydw i’n edrych ymlaen at fwrw iddi efo’r gwaith pwysig yma.”
Mae’r Cynghorydd Paul Rowlinson hefyd yn gadeirydd bwrdd llywodraethu Ysgol Dyffryn Ogwen ac yn aelod o Gyngor Llyfrau Cymru, Mantell Gwynedd a Phwyllgor Rheoli Lôn Abaty.
‘Gwneud gwahaniaeth’
Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, wedi croesawu’r Cynghorydd Rowlinson i’w swydd newydd ac wedi talu teyrnged i’r Cynghorydd Ioan Thomas am ei waith.
“Hoffwn groesawu’r Cynghorydd Paul Rowlinson i’r Cabinet,” meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn.
“Mae’n gynghorydd brwdfrydig a chydwybodol sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth dros drigolion Gwynedd a dwi’n sicr y bydd yn gwneud cyfraniad pwysig fel aelod Cabinet.
“Bydd yn dod â thoreth o brofiad a gwybodaeth i’r swydd allweddol hon ac yntau wedi bod yn aelod o Gyngor Gwynedd ers saith mlynedd, yn gadeirydd Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi y Cyngor ac yn aelod o nifer o bwyllgorau a fforymau eraill o fewn a thu hwnt i’r Cyngor.
“Dymunaf y gorau iddo yn ei rôl newydd ac edrychaf ymlaen i weithio’n agos gydag o i’r dyfodol.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’r Cynghorydd Ioan Thomas am ei waith diflino a’i ymroddiad i’r maes dros flynyddoedd lawer.
“Y mae wedi bod wrth y llyw dros gyfnod heriol iawn pan mae cyllidebau’r cyngor wedi bod o dan fwy o bwysau nag a welwyd erioed o’r blaen. Mae’r Cynghorydd Thomas wedi bod yn llais cadarn dros amddiffyn gwasanaethau i bobl fregus wrth osod cyllidebau’r Cyngor ac wedi pwyso’n ddiflino ar y llywodraeth i sicrhau cyllid teg i gynghorau gwledig fel Gwynedd.
“Rwy’n gwybod y bydd yn parhau i fod yn aelod gweithgar o’r Cyngor wrth gynrychioli ward Menai yng Nghaernarfon.”