Newid Eryri – arddangosfa ryngweithiol

Bwrw golwg ar newidiadau yn nhirwedd yr ardal

gan Alex Ioannou

Gall ddysgu bod tirweddau’n esblygu, yn ffisegol ond hefyd o ran sut y cânt eu hamgyffred, leihau dymuniadau i gadw’r dirwedd bresennol yn sefydlog ac yn ddigyfnewid?

Mae ‘Newid Eryri’ yn arddangosfa ryngweithiol sy’n taflu goleuni ar y newidiadau amrywiol y mae Eryri eisoes wedi bod trwyddynt, o’r prosesau cudd sy’n gynhenid i siapio ein dealltwriaeth o’i thirwedd, i’r trawsnewidiadau ffisegol mwy amlwg a wnaed yn hanesyddol gan Stad y Penrhyn.

Degawd dyngedfennol

Yn ôl Llywodraeth Cymru hon yw’r ‘ddegawd dyngedfennol’ i fynd i’r afael â newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhybuddio mai’r rhagamcan yw y bydd newid hinsawdd yn cynyddu amlder a dwyster cyfnodau o sychder, llifogydd afon ac arfordirol a chyfnodau o wres mawr – a disgwylir i hynny wanhau gwytnwch ecosystemau ymhellach. Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn cynghori bod trawsnewid tir yn un o’r pedwar maes allweddol lle gall Cymru gymryd camau breision i gyrraedd sero net.

Mae’r tirweddau yr ydym yn eu hadnabod, y lleoedd yr ydym yn byw ynddynt yn newid. Nid yw Eryri yn eithriad. Ond sut ddylem wynebu’r ffaith neu deimlo amdano? A ydym yn barod am newid?

Arddangosfa

Bwriad yr arddangosfa ‘Newid Eryri’ ydi taflu goleuni ar y newidiadau amrywiol y mae Eryri eisoes wedi bod trwyddynt.

Trwy gelf, sain, mapiau a deunyddiau archif eraill, bydd ymwelwyr yn darganfod sut mae Eryri a’n hymdeimlad o’r dirwedd wedi newid dros amser.

Y prif gwestiwn sy’n tywys yr arddangosfa chwilfrydig hon yw hyn:

Gall ddysgu bod tirweddau’n esblygu, yn ffisegol ond hefyd o ran sut y cânt eu hamgyffred, leihau dymuniadau i gadw’r dirwedd bresennol yn sefydlog ac yn ddigyfnewid?

Awst 8 – Awst 18, 2024 (ar gau 10+11 Awst)

whiteBox, Lefel 2 Pontio, Canolfan Celfyddydau Prifysgol Bangor.

Ewch i wefan y prosiect reframing.wales i ddarganfod rhagor, ac i wefan Prifysgol Bangor yma.

Digwyddiad Arbennig

Ar ddydd Sul, 18 Awst bydd cyfres o sgyrsiau byr, deunydd casgliad archif ehangach yn cael ei rannu, yn ogystal â the a choffi rhwng 2-5pm. Bydd Gwilym Bowen Rhys hefyd yn perfformio caneuon gwerin am dirwedd a chymunedau gogledd Cymru.