Nadolig yng Nghastell Penrhyn

Ymunwch â ni yng Nghastell Penrhyn o 30 Tachwedd i ddathlu’r ŵyl

gan Tomos Wyn Jones
nt penrhyn castle christmas 387

Coeden Nadolig yn yr Gegin Fictoraidd, Castell Penrhyn

Eleni rydym yn dathlu ein cymuned yma ym Mhenrhyn drwy gydweithio gyda’n partneriaid ac elusennau lleol.

Yn cydweithio gyda Phartneriaeth Ogwen, Blas, Tŷ Gobaith ac eraill, rydym yn dod a’r ysbryd yr Ŵyl i Gastell Penrhyn i ddathlu’r Nadolig.

Bydd ein partneriaid yn addurno sêr o gwmpas y castell a fydd yn helpu dod a’r castell i ysbryd yr Ŵyl. Bydd y sêr yn un rhan o’n addurno, lle bydd coeden Nadolig yn cael ei harddangos yn y Neuadd Fawreddog, yn ogystal ag addurniadau yn y Gegin Fictoraidd.

Dros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi bod digon ffodus i weithio yn agos gyda sawl partneriaeth leol, ac rydym wedi mwynhau gweithio yn agos gyda nhw unwaith eto ar gyfer y Nadolig.

Mae’r tîm yn rhoi’r darnau olaf at ei gilydd cyn ail-agor ar gyfer y Nadolig, heb gyd-weithio gyda’n partneriaid, mi fysa hi’n anodd cyfleu Penrhyn ar ei orau i agor ar gyfer y Nadolig.

Mae’r goeden i fyny yn y Neuadd Fawr, y dorch yn yr ardd furiog, a sêr ein grwpiau cymunedol yn arddangos o gwmpas yr ystâd.

Bydd Castell Penrhyn yn ail agor ar 30 Tachwedd ar gyfer y Nadolig, a byddwn ar agor drwy’r wythnos – Dydd Llun i Sul, o’r wythnos yn cychwyn 16 Rhagfyr.

Tomos Wyn Jones, Swyddog Cyfathrebu a Marchnata (Castell Penrhyn)

Dweud eich dweud