Marchnad Ogwen yn dod i ben

Cau drysau’r farchnad.

Lois Nottingham
gan Lois Nottingham

Gyda thristwch, mae pwyllgor Marchnad Ogwen wedi gwneud y penderfyniad anodd iawn i ddod a’r farchnad fisol i ben.

Sefydlwyd y farchnad yn ôl yn 2011 gydag amryw o stondinwyr yn gwerthu bwyd a chrefftau o bob math. Tyfodd y farchnad dros y blynyddoedd ac roedd yn llwyfan i fusnesau lleol gael arddangos a gwerthu eu nwyddau. Daeth cwsmeriaid yn ffrindiau ac yn gefnogwyr ffyddlon o’r farchnad.

Fel popeth arall, daeth Cofid i chwalu pob arferiad a thraddodiad yn ein byd bach. Roedd rhaid cau drysau’r farchnad am hir iawn yr adeg honno. Yna ceisiodd y pwyllgor bob ffordd o gael y bwrlwm yn ôl i’r farchnad, ond yn anffodus, roedd bywydau pawb wedi newid. Dros y misoedd wedyn, nid oedd pawb yn gyfforddus gyda mynd allan a chymysgu ac roedd amgylchiadau y tu allan i bob rheolaeth yn gorfodi’r farchnad i gau eu drysau unwaith eto.

Ar ben bob dim, effeithiodd y costau byw presennol ar bawb ac fe welodd y stondinwyr bod llai a llai o gefnogaeth pob mis. Felly, arweiniodd hyn at orfodi’r pwyllgor i drafod a dod i benderfyniad.

Er bod hyn yn gyfnod trist, hoffai’r pwyllgor ddiolch o waelod calon i bawb sydd wedi cefnogi’r farchnad dros y blynyddoedd. Mae pawb wirioneddol yn gwerthfawrogi’r holl gyfeillgarwch a’r hwyl bob mis.

Bydd y farchnad yn Neuadd Ogwen ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 13eg ac yna nos Fercher, Tachwedd 20fed. Dewch draw i gefnogi am y tro olaf.