Mapio Mwsog yn Nyffryn Ogwen

Prosiect cyffrous sy’n cofnodi bioamrywiaeth leol ac yn cysylltu pobl â’r byd o’u cwmpas

gan Gwyneth Jones

Mae Mapio Mwsog yn un o syniadau prosiect Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol GwyrddNi Dyffryn Ogwen, er bod y ‘tîm mwsog’ wedi bod yn dysgu ac addysgu am fwsog ers llawer hirach.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ecolegydd ac artist Emily Meilleur wedi bod yn arwain teithiau cerdded mwsog yn Nyffryn Ogwen. Ar ôl ychydig, daeth ei ffrindiau Emily Farrel ac Alys Wardle i ymuno â hi, a threulion lawer o Suliau hir dros y gaeaf gyda’i gilydd yn cerdded trwy goedwigoedd gyda lensys llaw, yn chwilio am fwsogl a dysgu amdano.

Wedi’i lansio’n swyddogol ar Hydref 21ain, 2023, Diwrnod Cenedlaethol Mwsogl, dechreuodd y prosiect Mapio Mwsog gyda thaith mwsogl ym Methesda. Wedi’i harwain gan Emily Meillieur a’i chefnogi gan Alys Wardle, Emily Farrell, a Catharine Moss, denodd y daith 35 o gyfranogwyr eiddgar. Ni chawsant eu rhwystro gan y glaw, a threulion amser yn astudio’r amrywiaeth gyfoethog o fryoffytau (sy’n cynnwys mwsogl, llysiau’r afu a llysiau’r afu deiliog) yn tyfu ar goed, creigiau, a waliau.

Yn dilyn lansiad y prosiect, mae’r tîm Mapio Mwsog wedi bod yn mynd â phobl ar deithiau cerdded mwsogl rheolaidd i astudio’r mwsoglau yn y dyffryn, yn ogystal â threfnu diwrnodau celf lle mae oedolion a phlant yn casglu samplau o fwsogl a’u defnyddio i ysbrydoli barddoniaeth a chelf yn seiliedig ar beth maent yn gweld ac yn teimlo.

Yn ogystal â cheisio annog pobl i arafu a sylwi ar y byd naturiol o’u cwmpas, nod prosiectau Mapio Mwsog yw cofnodi a storio gwybodaeth am fwsoglau a llysiau’r afu yn Nyffryn Ogwen. Bydd hyn yn helpu i ddarparu llinell sylfaen ar gyfer monitro yn y dyfodol ac i olrhain newidiadau dros amser, gan ddarparu mewnwelediad gwerthfawr i iechyd a gwytnwch yr ecosystem.

Gan ddechrau gyda naw pwynt penodol yn Nyffryn Ogwen, bydd tîm Mapio Mwsog yn cofnodi ac yn arolygu mwsoglau a llysiau’r afu – gyda lensys llaw, microsgopau a’r llygad noeth. Bydd Partneriaeth Ogwen a GwyrddNi yn cefnogi a hyrwyddo’r prosiect ochr yn ochr â’r tîm mwsogl.

“Mae hefyd yn gysylltiedig â’r angen i warchod natur lle yn gyffredinol. Mae Cymru, ynghyd â gweddill y byd, yn wê gymhleth o wahanol fathau o gynefinoedd, pob un yn llawn bywyd o’u gadael i’w dyfeisiau eu hunain,” meddai’r tîm. “Gall beth sy’n ymddangos yn dirwedd ddiffrwyth yn aml fod yn gyforiog o fioamrywiaeth, ar raddfa lai nag yr ydym yn ei chydnabod fel arfer… Mae’n canolbwyntio ar ymwybyddiaeth a dysgu’r grefft o arsylwi gan ddefnyddio mwsoglau a llysiau’r afu deiliog, fel ffocws.”

Pam mwsog?

I lawer ohonom, mae’n debyg bod mwsogl yn rhywbeth nad ydym yn talu llawer o sylw iddo. Ac eto mae rhwng 12,000 a 15,000 o rywogaethau o fwsogl wedi’u cofnodi – ac maen nhw’n llawer pwysicach, a mwy diddorol, nag y byddech chi’n meddwl.

Mae mwsoglau yn arbenigwyr ar ddal a storio carbon deuocsid o’r atmosffer, yn ogystal ag amsugno llygredd aer. Roeddwn i’n arfer meddwl bod mwsogl yn tyfu ar fy mhridd yn rhywbeth i boeni amdano, ond nawr rydw i wedi dysgu ei fod yn helpu i atal erydiad pridd, ac yn helpu i reoli tymheredd y pridd a chadw lleithder. Mae mwsog yn cyfrannu at greu ecosystemau iach sy’n cefnogi bioamrywiaeth ac yn wytn yn erbyn amrywiadau yn yr hinsawdd.

Gallai mwsoglau hefyd ein helpu i fonitro newidiadau cynnil yn ein hamgylchedd:

“Maent yn ddangosyddion gwych o ansawdd aer, ac o fetelau trwm yn yr amgylchedd;” mae Robin Wall-Kimmerer yn dweud, awdur y llyfr Gathering Moss, “gan nad oes ganddyn nhw epidermis, maen nhw’n agos at y byd. Storïwyr ydyn nhw.”

Mae mwsoglau hefyd yn rhan greiddiol o stori ein planed werdd: gwnaethant esblygu o algâu gwyrdd tua 470 miliwn o flynyddoedd yn ôl, sy’n eu gwneud nhw yn un o’r planhigion tir cynharaf – mewn ffordd, mae’n eu gwneud yn un o hynafiaid cynharaf bywyd planhigion y tu hwnt i’r môr.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y prosiect Mapio Mwsog, i gymryd rhan neu i ymuno â thaith mwsog, cysylltwch â Chris, Hwylusydd Cymunedol GwyrddNi Dyffryn Ogwen (chris@ogwen.org).