Lansio Paned i’r Blaned yn Nyffryn Ogwen

Cyfle i sgwrsio am bopeth amgylcheddol yn y Gymraeg

gan Gwyneth Jones

Yn yr wythnosau nesaf bydd Paned i’r Blaned yn cael ei lansio yn Nyffryn Ogwen.

Bwriad Paned i’r Blaned ydi cynnal gofod i bobl ddod at ei gilydd i drafod materion amgylcheddol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle i bawb gynnig pynciau trafod fydd yn newid bob sesiwn: o natur a bioamrywiaeth i dechnoleg, i drafnidiaeth.

Y syniad ydi y bydd hyn yn ofod cyfforddus, amyneddgar i bobl ymarfer eu Cymraeg ac ehangu eu geirfa. Mae croeso i bawb, hyd yn oed os nac ydych yn rhy hyderus yn siarad Cymraeg!

Daeth y syniad o’r sesiynau allan o’r syniadau Caffis Hinsawdd a “People, Planet, Pint” – cyfleoedd i bobl drafod materion hinsawdd mewn ffordd anffurfiol, wedi’u harwain gan y gymuned. Gyda mwy a mwy o bobl yn bryderus am newid hinsawdd, gallant fod yn gyfle da i gydnabod nad ydych ar eich pen eich hun, cyfarfod ffrindiau newydd neu hyd yn oed i ddarganfod be allwch ei wneud.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod i’r sesiynau hyn, byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddech yn llenwi’r holiadur cyflym yma i’n helpu gyda’r cynllunio.

Bydd Paned i’r Blaned yn cael ei lansio gan Partneriaeth Ogwen a GwyrddNi, gyda’r peilot yn Nyffryn Ogwen. Y syniad bydd i’r sesiynau ehangu i ardaloedd eraill os ydynt yn llwyddiannus.