J.R. Jones a Brwydr yr Iaith – Ieuan Wyn

Trafod cyfraniad nodedig yr Athro John Robert Jones

IMG_2990

J.R. Jones a Brwydr yr Iaith – Ieuan Wyn (Gwasg Utgorn Cymru)

Mae’r llyfryn hwn yn ffrwyth Darlith Flynyddol Utgorn Cymru 2021, a draddodwyd gan Ieuan Wyn i gynulleidfa Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

Yn briodol iawn, fe’i traddodwyd drachefn y llynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan, gan mai un o wlad Llŷn oedd ei gwrthrych, yr Athro John Robert (J.R.) Jones, a aned ym Mhwllheli ym Medi 1911.

Yn y ddarlith gyfoethog a threiddgar hon mae Ieuan Wyn yn ymdrin â chyfraniad J.R. Jones i frwydr yr iaith – cyfraniad nodedig nid yn unig ei arweiniad o ran syniadaeth fel athronydd ond hefyd ei gefnogaeth gyhoeddus ddiwyro i’r gweithredwyr mewn cyfnod allweddol yn hanes y frwydr.

Cyhoeddiry llyfryn gan Nereus, Y Bala ar ran Gwasg Utgorn Cymru, ac mae ar werth yn y siopau llyfrau Cymraeg (pris: £4.00) ac o Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, Clynnog Fawr, Caernarfon LL54 5BT; e-bost:hanes.uwchgwyrfai@gmail.com (£5.00 drwy’r post).