Gŵyl Hinsawdd yn dod i Ddyffryn Ogwen ar y 6ed o Fai

Cyfle i ddysgu am ddatrysiadau hinsawdd, cymryd rhan mewn gweithdai a bod yn rhan o weithredu

gan Gwyneth Jones

Mi fydd ail Ŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Tregarth ar Ddydd Llun y 6ed o Fai (dydd Gŵyl Banc). 

Eleni, bydd yr ŵyl yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Tregarth o 11yb tan 4yh, a bydd llawer o bethau i’w gwneud. Hyd yn hyn, rydym wedi cadarnhau sesiwn galw heibio gwirio beics (i wneud yn siŵr bod popeth ar eich beic yn gweithio yn iawn), taith beicio ar Lôn Las Ogwen, taith adar a gweithdy bocsys adar, cwis, a chyflwyniadau.

Bydd yr Ŵyl hefyd yn fan lansio i “Paned i’r Blaned”, syniad wedi ei hysbrydoli gan Climate Cafes a “People, Planet, Pint” – cyfle i bobl ddod at ei gilydd, cael paned a thrafod pethau i’w wneud a’r blaned a newid hinsawdd mewn atmosffer ymlaciol ac anffurfiol. Bydd yn ofod dwyieithog, cefnogol i bobl sydd eisiau ymarfer eu Cymraeg neu ehangu eu geirfa.

Fel rhan o Gynulliad Hinsawdd Dyffryn Ogwen (gan GwyrddNi a Partneriaeth Ogwen), un o’r syniadau a gytunodd y gymuned arni oedd creu gŵyl hinsawdd flynyddol – diwrnod i ddod a phobl a sefydliadau sydd yn ymwneud â gweithredu hinsawdd yn lleol at ei gilydd gyda’r gymuned a rhannu gwybodaeth am yr argyfwng hinsawdd a hyrwyddo datrysiadau hinsawdd bresennol Dyffryn Ogwen.

Llynedd, cynhaliwyd yr Ŵyl Hinsawdd yn Neuadd Ogwen a Llys Dafydd, a daeth pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau a gwrando ar gyflwyniadau gan bobl leol sydd yn gweithio ar ddatrysiadau – o greu ynni cymunedol hyd at dyfu bwyd ac amddiffyn natur leol.

Mae’r Ŵyl am ddim – dewch draw ar y 6ed i’n gweld ni!

Dweud eich dweud