Gŵyl Angylion – dathlu’r Nadolig

Cais am gymorth gan Gaplan Bro Ogwen

Sara Roberts
gan Sara Roberts

Annwyl perchnogion busnes a thrigolion y Stryd Fawr ym Methesda,

Dros y tair blynedd ddiwethaf mae’r Stryd Fawr wedi gweld Defaid, Sêr a chymeriadau o’r Geni yn yr wythnosau yn arwain at y Nadolig.

Fel eich Caplan Bro, hoffwn drefnu ddigwyddiad cymunedol arall i ddathlu Ŵyl y Nadolig eleni- Gŵyl Angylion!

Hoffwn eich gwahodd i greu arddangosfa yn eich ffenast o wahanol angylion- allan o wlân, papur, pren, metal, crochenwaith, unrhyw beth! Mae’r Grŵp Gweu o Gaffi Blas Lôn Las wedi dechrau gweu angylion bach o wahanol liwiau, a fydd rhai ar gael i helpu chi addurno hefyd.

Yn draddodiadol mae angylion wedi cael eu gweld fel negeseuwyr o Newyddion Da a bysa’n dda i ddod ag ychydig o newyddion da i’n cymuned ni.

Gobeithiwn hefyd codi Angel fawr ar lawnt Eglwys Glanogwen a threfnu Côr ‘pop up’ i ganu carolau yn agos at y Nadolig. Os hoffech gymryd rhan, cysylltwch â fi ar y rhif neu gyfeiriad e-bost isod.

Dwi’n gobeithio y byddwch yn hapus i gymryd rhan a chyfrannu at cyffro’r tymor Nadolig.

Diolch o galon

Cysylltwch â fi

Parch Sara Roberts: 07967652981.  FB: Caplan Bro, Bro Ogwen. sararoberts@churchinwales.org.uk

Dweud eich dweud