Gwobr cenedlaethol i fusnes Angladdau Enfys

Busnes lleol yn cipio categori gofal cwsmer

Carwyn
gan Carwyn

Mae Angladdau Enfys wedi ennill gwobr gofal cwsmer ar gyfer busnesau newydd yng Nghymru.

Sefydlwyd y cwmni gan Manon Williams o Fethesda gyda chyfaill yn ystod y pandemig, ar ôl cefnogi ffrind yn ystod profedigaeth.

Mae’r cwmni yn cynnal angladdau sy’n adlewyrchiad o bersonoliaethau a chymeriadau eu cleientiaid, gan eu galluogi i ddechrau’r broses o alaru. Mae Manon hefyd yn frwd dros gael pobl i drafod angladdau, colled a galar, yn enwedig â phlant, sy’n aml yn cael eu hanghofio yn y broses.

Mae’n amlwg fod y gwaith caled yn talu ar ei ganfed gyda gwobr arall i gwmni Angladdau Enfys.

“Fe enillon ni Wobr “StartUP Awards – Consumer Services Start Up of the year 2024″ ar gyfer Cymru!” meddai’r cwmni.

“Mae’n anrhydedd cefnogi pob teulu, a gofalu am eu hanwyliaid, yn sicr nid ydym yn ei wneud ar gyfer y gwobrau, ond mae cyrraedd y rhestr fer ac yna ennill yn teimlo fel dilysiad.

“Roedd angen mwy o opsiynau amgen ar gyfer angladdau yng ngogledd Cymru, ac rydym yn falch iawn o fod yn llywio’r newid.”

Fe enillodd Manon, cyd-berchennog y cwmni wobr Womenspire y llynedd.

Llongyfarchiadau mawr ar wobr arall!