Gwisgo pinc i nodi mis cancr y fron

Staff gwastraff ac ailgylchu yn codi ymwybyddiaeth a phres

Carwyn
gan Carwyn
Pinc7

Rhai o staff Canolfan Ailgylchu Stad Llandygai

Mae’n bosib eich bod wedi sylwi fod nifer o staff gwastraff ac ailgylchu Cyngor Gwynedd yn cymryd rhan ym mis codi ymwybyddiaeth Cancr y Fron, gan wisgo pinc ar hyn o bryd.

Gyda mis Hydref yn fis codi ymwybyddiaeth, penderfynodd staff ar draws y maes Gwastraff ac Ailgylchu eu bod yn awyddus i wneud rhywbeth i chwarae eu rhan. Mae nifer o’r criwiau casglu, staff safleoedd trin, canolfannau ailgylchu a dosbarthu biniau yn gwisgo hetiau neu dopiau pinc fel rhan o’r ymgyrch Gwisgo Pinc (Wear it Pink) er budd elusen ymchwil a chefnogaeth Breast Cancer Now.

“Mae bob un ohonan ni’n dad, gŵr, mab neu berthyn i rywun fyddai’n gallu cael eu heffeithio gan gancr y fron. Mae nifer ohonan ni’n adnabod merched sydd wedi cael cancr y fron, ac felly roeddan ni’n awyddus i wneud ein rhan i godi ymwybyddiaeth,” meddai Darron Roberts, sy’n aelod o griw casglu gwastraff y Cyngor.

“Rhywbeth bach ydi o i ni i fod yn gwisgo pinc, ond os ydi o’n gwneud i rywun allan yna i feddwl am bwysigrwydd mynd i weld y meddyg os ydyn nhw’n pryderu am rhywbeth, yna mae o’n sicr werth o.”

Ychwanegodd Dafydd Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd: “Rydan ni’n falch ofnadwy fod nifer o staff Gwastraff ac Ailgylchu wedi penderfynu gwneud rhywbeth mor bositif i godi ymwybyddiaeth am y cyflwr yma, ac yn diolch iddyn nhw am eu hymdrech.

“Y llynedd bu nifer o’r criwiau casglu yn casglu teganau a raffl er budd plant a phobl ifanc sy’n derbyn cefnogaeth arbenigol, felly mae’r ysbryd elusennol yn gryf iawn ymhlith y gweithlu. Diolch iddyn nhw am eu hymdrechion.”

Fel rhan o’r ymgyrch, mae’r criw hefyd yn hel at elusen Breast Cancer Now. Os am gyfrannu, ewch draw i www.justgiving.com/page/gwastraffacailgylchucyngorgwynedd

Dweud eich dweud