Gwasanaethau dros y ’Dolig

Rhai newidiadau i gasgliadau gwastraff ac oriau agor y llyfrgell

Carwyn
gan Carwyn

Mae hi bron yn Nadolig, felly dyma fanylion rhai o wasanaethau’r Cyngor Sir dros yr wythnos neu ddwy nesaf.

Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu

Mae newid i drefniadau casglu ar gyfer rhai cartrefi a busnesau. Er bod casgliadau arferol oni bai am 25, 26 a 27 Rhagfyr, bydd newid os ydi’;ch casgliad yn glanio ar un o’r dyddiau yna, sef:

  • 25 Rhagfyr: Bydd pob casgliad sy’n glanio ar 25 Rhagfyr yn cael eu casglu dydd Mercher, 1 Ionawr.
  • 26 Rhagfyr: Bydd pob casgliad sy’n glanio ar 26 Rhagfyr yn cael eu casglu dydd Iau, 2 Ionawr.
  • 27 Rhagfyr: Bydd pob casgliad sy’n glanio ar 27 Rhagfyr yn cael eu casglu dydd Gwener, 3 Ionawr.

Mae’r un yn wir am gasgliadau gwastraff masnachol mae’r Cyngor yn ei ddarparu, ac mae mwy o wybodaeth ar gael yma.

Canolfan Ailgylchu

Bydd Canolfan Ailgylchu’r Cyngor ar Stad Llandygai, ar agor tan 24 Rhagfyr, ac ar agor fel arfer oni bai am y dyddiadau isod.

Bydd y canolfannau ar agor fel arfer oni bai am y dyddiadau isod.

Dydd Mercher, 25 Rhagfyr: Ar gau
Dydd Iau, 26 Rhagfyr: Ar gau
Dydd Mercher, 1 Ionawr: Ar gau

Cofiwch hefyd, does dim angen gwneud apwyntiad i ddefnyddio’r canolfannau rhwng 27 Rhagfyr ac 11 Ionawr.

Llyfrgell

Bydd rhai addasiadau i drefniadau agor Llyfrgell Bethesda, sef:

  • Dydd Sadwrn, 21 Rhagfyr – Ar gau
  • Dydd Llun, 23 Rhagfyr – Ar agor 2pm – 5pm
  • Dydd Mawrth, 24 Rhagfyr – Ar agor 10am – Hanner dydd
  • Dydd Mercher, 25 Rhagfyr – Ar gau
  • Dydd Iau, 26 Rhagfyr – Ar gau
  • Dydd Gwener, 27 Rhagfyr – Ar gau
  • Dydd Sadwrn, 28 Rhagfyr – Ar gau
  • Dydd Llun, 30 Rhagfyr – Ar agor 2pm – 5pm
  • Dydd Mawrth, 31 Rhagfyr – Ar agor 10am – Hanner dydd
  • Dydd Mercher, 1 Ionawr – Ar gau
  • Dydd Iau, 2 Ionawr – Ar agor 10-12; 2pm-5pm

Bysiau

I weld manylion bysiau cyhoeddus yng Ngwynedd dros gyfnod y Nadolig, ewch draw i wefan y Cyngor yma.

Parcio

Cofiwch fod parcio am ddim ym meysydd parcio talu ac arddangos Cyngor Gwynedd tan 27 Rhagfyr 2024 o 11am ymlaen.

Plas Ffrancon 

Os ydych chi’n awyddus fynd draw i’r ganolfan hamdden ym Mhlas Ffrancon, mae yna rywfaint o newid yn oriau agor dros y ’Dolig, sef:

Dydd Llun, 23/12/24: 3pm – 6pm

Dydd Mawrth 24/12/24: 8am – 11:30am

Dydd Mercher, 25/12/24: Ar gau

Dydd Iau, 26/12/24: Ar gau

Dydd Gwener, 27/12/24: 7.30am – 5.30pm

Dydd Sadwrn, 28/12/24: 9:30am – 3pm

Dydd Sul, 29/12/24: 10am – 4pm

Dydd Llun, 30/12/24: 7:30am – 6pm

Dydd Mawrth, 31/12/24: 8am – 11:30am

Dydd Mercher, 01/01/25: Ar gau

Am fanylion am oriau agor arferol, ewch i wefan Byw’n Iach.

I wirio unrhyw fanylion arall am drefniadau’r Cyngor, ewch draw i’w gwefan.

Dweud eich dweud