Gradd er anrhydedd i Manon Steffan Ros

Prifysgol Bangor yn cydnabod cyfraniad y nofelydd

Carwyn
gan Carwyn
IMG_2413

Manon Steffan Ros (llun Prifysgol Bangor)

Llongyfarchiadau mawr i’r llenor amryddawn, Manon Steffan Ros ar ennill Gradd er Anrhydedd o Brifysgol Bangor.

Yn wreiddiol o Ddyffryn Ogwen ac wedi ymgartrefu gyda’i theulu ym Mro Dysynni bellach, mae gwaith Manon wedi ennill llu o wobrau.

Mae ei nofel amlycaf, Llyfr Glas Nebo a enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen wedi ei gyfieithu i nifer o ieithoedd.

Y llynedd, dyfarnwyd Medal Yoto Carnegie i Manon am ‘The Blue Book of Nebo’, cyfieithiad gan Manon o’r nofel, a enillodd Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol 2018 a thair gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Wrth ei llongyfarch, dywedodd Prifysgol Bangor:

“Mae Manon, nofelydd, dramodydd a cherddor amlwg o Gymru, wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i lenyddiaeth a diwylliant Cymraeg.”

Cafodd ei chydnabod am ei chyfraniad at y Gymraeg a Diwylliant, Cerddoriaeth a’r Celfyddydau yng Nghymru fel Doethur er anrhydedd mewn Llenyddiaeth (Hon D.Litt)