Gigs Neuadd Ogwen

Cyfres o gyngherddau ar y gweill dros yr wythnosau nesaf

Carwyn
gan Carwyn

Mae cyfres o gigs cyffrous ac amrywiol ar y gweill yn Neuadd Ogwen dros yr wythnosau nesaf.

Nid pob pentref sy’n gallu cynnig nosweithiau gan gantorion o fri mewn lleoliad pwrpasol fel Neuadd Ogwen.

Nos Wener yma, 5 Ebrill bydd noson yng nghwmni’r cerddor Morgan Elwy a fydd yn cefnogi’r artistiaid unigryw ‘The Undercover Hippy‘.

Yna, ar 19 Ebrill, bydd Bethesda’n croesawu’r cerddor nodedig, Jah Wobble, un o sylfaenwyr grŵp ‘Public Image Limited’. Roedd eu hail albwm, y campwaith ‘Metal Box’ o 1979, yn fellten i fyd cerddoriaeth mewn mwy sawl ffordd. Gyda ‘Metal Box – Rebuilt In Dub’ mae Jah Wobble yn cloddio’n ddwfn a dod â’i greadigrwydd orau allan.

Leela James fydd yn diddanu ar 11 Mai. Yn adnabyddus am ei pherfformiadau swynol a gafaelgar, mae Leela James wedi rhannu llwyfan gydag ystod o artistiaid yn James Brown, Robert Randolph a’r Isley Brothers.

Y band gwerin o’r Alban, Skerryvore fydd yn perfformio ar 17 Mai. Yn creu cyfuniad unigryw o werin draddodiadol, roc ac Americana, mae Skerryvore yn cynrychioli’r holl bersonoliaethau a magwraeth yr 8 aelod o’r band sy’n hanu o wahanol ranbarthau’r Alban.

Am ragor o fanylion ac i brynu to cynnau, ewch draw i wefan Neuadd Ogwen.