Dyffryn Caredig yn dathlu Wythnos Cludiant Cymunedol

Cerbydau trydan cymunedol Dyffryn Ogwen

gan Anna Sethi
IMG_5485

Fel un o aelodau Gwynedd o’r Gymdeithas Cludiant Cymunedol (CTA) bu criw’r Dyffryn Caredig wrthi’n brysur wythnos diwethaf – nid yn unig yn cludo trigolion y Dyffryn, ond hefyd yn dathlu hynny a’r cydweithio gyda’r corff sydd wedi bod mor gefnogol a phartneriaid Dolan, y Dref Werdd, Drws i Ddrws ac Yr Orsaf.

Dywedodd Huw Davies, Rheolwr Dyffryn Caredig: “Gan fod gennym bellach bump o gerbydau trydan acw a fflyd o feics trydan mae pob wythnos yn brysurach na’r un flaenorol!

“Mae tipyn o amrywiaeth yn y gwaith a wneir chwe diwrnod pob wythnos – cludiant i feddygfeydd, digwyddiadau cymdeithasol, siopa, casgliadau a danfoniadau bwyd yn ogystal â chludo disgyblion yr ysgolion lleol.

“Yn ystod yr wythnos hon o ddathlu fe gludwyd ymhell dros 100 o bobl leol. Roedd rheini’n amrywio mewn oedran o 9 i 90+ ac fe aethpwyd i amrywiaeth eang o gyrchfannau gan gynnwys Bangor, Caergybi, Prestatyn a Chaernarfon. Hyn i gyd a danfon prydau maethlon, cynnes Caffi Coed y Brenin ar y dydd Iau ac wedyn uchafbwynt yr wythnos i sawl un, cyngerdd mawreddog Wil Tan yn Neuadd Ogwen!”

Ychwanegodd Donna Watts, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen: “Mae’r gefnogaeth rydan ni wedi ei gael gan y CTA dros y bum mlynedd ddiwethaf wedi bod yn greiddiol i lwyddiant y prosiect yma.

“Mae’n ein galluogi i gludo nifer fawr o unigolion sydd heb fynediad at drafnidiaeth ar hyd a lled y dyffryn tra hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gyfrannu at waith Cludiant Cymunedol Gwynedd.

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Loteri Genedlaethol am gefnogi’n gwaith a hefyd i gronfa SPF sydd wedi bod yn holl-bwysig inni wrth weithio ochr yn ochr gyda phartneriaid Dolan i ymestyn y rhwydwaith cludiant trydan cymunedol ar hyd a lled Gwynedd.”

Dweud eich dweud