Dweud eich dweud am Eglwys Wyllt

Cyfle i roi eich barn am ddyfodol y prosiect

Sara Roberts
gan Sara Roberts

Mae Eglwys Wyllt yn brosiect sydd wedi bod yn rhedeg dros y 3 mlynedd diwethaf ym Methesda gan y Parch Sara Roberts, y Caplan Bro.

Mae’r digwyddiadau yn cael eu cynnal o gwmpas Fethesda, mewn gwahanol leoliadau- fel Parc Meurig, Gerlan, coedwig Parc Moch ayb.

Mae o’n ceisio cynnig ffordd wahanol, anffurfiol o drafod pethau ysbrydol tu allan i waliau traddodiadol yr eglwys sefydledig, ond o dan ambarél y ffydd Gristnogol.

Mae’r byd natur a’r amgylchedd yn bwysig i’r Eglwys Wyllt, gan ein bod yn credu bod Duw yn cael ei ddatgelu i ni trwy’r greadigaeth. Nawr rydym yn ceisio adlewyrchu rhywfaint ar ein sefyllfa bresennol ac os yw hi’n werth parhau, neu newid cyfeiriad.

Os gwelwch yn dda, a wnewch chi gymryd ychydig funudau i ateb ein cwestiynau? Diolch yn fawr

Mae ’na ffurf hirach ar bapur, os hoffech chi derbyn copi, gyrrwch ebost @ sararoberts@churchinwales.org.uk

https://www.surveymonkey.com/r/65HZ36K