Ydych chi’n beicio i’r gwaith, neu yn ystyried dechrau?
Mae Partneriaeth Ogwen yn trefnu Diwrnod Beicio i’r Gwaith gyda GwyrddNi, ar ddydd Gwener Ebrill y 12fed, lle rydym wedi trefnu teithiau beicio tywys o Fynydd Llandygai a Bethesda i Fangor a Porthaethwy!
Os nad ydych yn teimlo’n hyderus am ba ffordd i feicio, dyma’r cyfle perffaith i chi gael dysgu am y ffordd orau i fynd ac i gyfarfod pobl eraill sydd gyda diddordeb.
Mae Margot, un o arweinwyr y daith ar y 12fed, yn cymudo o Fangor i Borthaethwy ar ei beic, yn llosgi 667 calori ac arbed 4kg o CO2.
“Dwi’n cymudo ar feic, ac rydw i wrth fy modd,” meddai Margot.
“Rwy’n cyrraedd y gwaith gyda phen ffres, ac ar ôl gwaith dwi’n cael dôs dda o awyr iach eto cyn cyrraedd adref a chael swper.
“Y ffordd yma, dwi’n cael fy ymarfer corff heb orfod meddwl amdano. Ac mae’r llwybr yn brydferth!
“Mae hefyd yn wych i’r blaned. Ac mae’n rhatach, a does dim rhaid i mi boeni byth am barcio. Beth sydd ddim i’w hoffi?”
Mae Diwrnod Beicio i’r Gwaith yn rhan o waith ehangach Partneriaeth Ogwen, sydd yn hybu teithio gwyrdd a teithio actif gan gynnwys llogi a trwsio beics drwy Beics Ogwen, a GwyrddNi, mudiad gweithredu hinsawdd gymunedol sydd yn gweithredu mewn pum ardal yng Ngwynedd, yn cynnwys Dyffryn Ogwen.
Am fwy o fanylion ac i ymuno a ni, cysylltwch â chris@ogwen.org.