Diogelu’r hen Ysbyty Chwarel

Gwaith cadwraeth 7-mis i gychwyn fydd yn diogelu Ysbyty Chwarel y Penrhyn

Carwyn
gan Carwyn
Ysbyty-Chwarel-Penrhyn-Bethesda

Mae rhaglen helaeth o waith cadwraeth sensitif ar fin cychwyn ar adeilad hanesyddol bwysig Ysbyty Chwarel y Penrhyn.

Fel y bydd unrhyw un sydd wedi cerdded heibio llwybr Lôn Las Ogwen yn gwybod, mae cyflwr digon truenus ar yr adeilad. Braf clywed felly fod yna waith sylweddol ar y gweill gyda’r nod o ddiogelu’r adeilad sydd â rhan bwysig i’w chwarae yn hanes Dyffryn Ogwen a’r chwarel.

Hanes gofal iechyd

Mae hen adeilad yr ysbyty wedi’i leoli o fewn Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru fel yr eglura Dafydd Wigley, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth y Safle Treftadaeth y Byd.

“Mae stori iechyd a lles yn y dyffrynnoedd llechi yn rhan hanfodol a diddorol o’i hanes. Roedd y chwarelwyr yn arloeswyr pan ddaeth hi i ofal cymdeithasol, ac arweiniodd yr ysbytai hyn y ffordd mewn llawer o’r triniaethau a’r feddyginiaeth yr ydym yn dibynnu gymaint arnynt yn y gwasanaeth iechyd heddiw.

“Mae diogelu’r strwythur hwn yn hanfodol wrth adrodd hanes gofal iechyd ar draws y Safle Treftadaeth y Byd. Mae gennym Ysbyty Chwarel Dinorwig yn Llanberis sydd wedi’i ailagor fel amgueddfa ac Ysbyty Chwarel Ffestiniog sydd wedi bod yn dŷ preifat ers tro, felly mae sicrhau bod Ysbyty Chwarel y Penrhyn yn gallu cyfleu hanes ei leoliad drwy ddiogelu’r strwythur a chynnwys dehongli yn arbennig iawn.”

Llewyrch o’r Llechi

Mae’r prosiect yn digwydd mewn partneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd, Welsh Slate a Cadw fel rhan o gynllun Llewyrch o’r Llechi, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU.

Mae’r cam diweddaraf yma yn dilyn rhaglen o waith cofnodi a gwaith brys a gynhaliwyd yn gynharach eleni, gan gynnwys clirio llystyfiant a gwaith maen.

“Rydym yn hapus iawn i weld y gwaith cadwraeth yn Ysbyty Chwarel y Penrhyn yn datblygu,” meddai’r Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Economi a Chymuned.

“Bydd y gwaith hanfodol hwn yn diogelu’r heneb ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan hwyluso gwell cyfleoedd ar gyfer mynediad a dehongli’r safle poblogaidd hwn.

“Mae Cyngor Gwynedd yn falch o fod yn bartner yn y prosiect hwn ac mae’n edrych ymlaen at weithio gyda Llechi Cymru a Cadw ar y cynllun.”

Bydd y gwaith yn dechrau ym mis Tachwedd 2024, a disgwylir iddo bara tua saith mis, gan ganolbwyntio ar atal dirywiad pellach a gwneud y safle’n fwy sefydlog ac yn fwy diogel i ymwelwyr. Bydd yn cynnwys:

  • sefydlogi a chyfnerthu cyflwr y waliau sy’n dirywio drwy fynd i’r afael â diffygion strwythurol;
  • sefydlogi a chyfnerthu’r gwaith maen a phwyntio morter;
  • cyflwyno copin cerrig a gwaith ar bennau’r waliau er mwyn lleihau faint o ddŵr sy’n mynd i graidd y wal;
  • gwarchod y manylion pensaernïol a hanesyddol sy’n weddill oddi mewn;
  • rheoli twf llystyfiant.

Bydd diwrnodau agored yn cael eu trefnu yn ystod cyfnod y gwaith er mwyn caniatáu i aelodau o’r cyhoedd weld drostynt eu hunain beth sy’n digwydd yn Ysbyty Chwarel y Penrhyn. Ni fydd y prosiect yn effeithio ar fynediad i Lôn Las Ogwen.

Cyflwr bregus

Mae cwmni Recclesia, contractwr sydd â phrofiad o gadwraeth adeiladau hanesyddol wedi cael ei benodi i ymgymryd â’r gwaith dan oruchwyliaeth y penseiri cadwraeth, Donald Insall Associates.

Meddai Elgan Jones o Donald Insall Associates:

“Mae’r gwaith cadwraeth yn cael ei wneud ar adeg dyngedfennol yn hanes yr adeilad; amlygodd y gwaith o dynnu’r llystyfiant gyflwr bregus ffabrig yr adeilad ac, heb yr ymyrraeth hon, byddai’n debygol o ddirywio’n gyflym, gan wneud y strwythur yn anniogel ac yn y pen draw yn arwain at iddo gwympo.

“Rydym yn falch iawn o weithio ochr yn ochr â thîm prosiect angerddol sydd â nod cyffredin i ddiogelu’r ffabrig a gwarchod y manylion pensaernïol a hanesyddol, sy’n adrodd hanes ei ddefnydd a’i rôl flaenorol yn y dirwedd lechi ehangach.”

Ychwanegodd Barry O’Connor, Rheolwr Cyffredinol – Welsh Slate, Agregau Arbennig, Economi Gylchol, Grŵp Breedon:

“Rydym wrth ein bodd o fod yn rhan o’r gwaith o warchod Ysbyty Chwarel y Penrhyn. Rydym yn deall bod hoffter i’r safle yn lleol, ac, fel tirfeddianwyr, rydym am sicrhau bod y safle’n cael ei gynnal a’i gadw mor sensitif â phosibl.

“Fel partner balch yn y prosiect, rydym wrth ein bodd y bydd ein cyfraniad o ddeunyddiau tuag at y gwaith yn galluogi i’r cyllid fynd ymhellach tuag at gadwraeth sensitif y strwythur.”

Buddsoddiad 

Mae’r cynllun yma yn rhan o raglen ehangach o fuddsoddiad yn yr ardal.

Rhaglen fuddsoddi ddiwylliannol yw Llewyrch o’r Llechi, sy’n cael ei harwain gan Gyngor Gwynedd. Ochr yn ochr â’r buddsoddiad yn Ysbyty Chwarel y Penrhyn, mae gwelliannau’n digwydd ar hyd Lôn Las Ogwen.

Mae Neuadd Ogwen wedi derbyn cyllid i uwchraddio’r adeilad er mwyn cadarnhau ei statws fel canolfan ddiwylliannol fywiog i’r ardal. Bydd Partneriaeth Ogwen hefyd yn derbyn cyllid i adfywio adeilad gwag yr hen siop Spar, gyda’r bwriad o’i drawsnewid yn ganolfan dreftadaeth a chymunedol yr Hen Bost.

Dweud eich dweud