Cafodd ail Ŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen 2024 ei gynnal Dydd Llun, y 6ed o Fai yng Nghanolfan Tregarth, wedi ei drefnu gan wirfoddolwyr gyda chefnogaeth Partneriaeth Ogwen a GwyrddNi.
“Roedd yn gyfle gwych i’r plant gymryd rhan yn y gweithgareddau natur amrywiol megis y daith hynod ddiddorol Mapio Mwsog, yn y bore ac yn y prynhawn roedd yr Helfa Chwilod Fawr, y daith adar a thaith siarad o amgylch Fferm Pandy a Moelyci,” meddai Maria Jones, aelod o grŵp Weithredu Hinsawdd Gymunedol a ddaeth allan o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi.
“Roedd y daith o amgylch Fferm Pandy yn y prynhawn yn wych ac yn uchafbwynt i mi yn bersonol. Roedd llawer o ddulliau tyfu bwyd cyfeillgar i’r hinsawdd cyraeddadwy ar waith ac fe helpodd ail-wylltio eu prosiect gwlyptir ni i gyd i ailgysylltu â, a gwerthfawrogi ein hamgylchedd naturiol yn ardal brydferth Dyffryn Ogwen lle rydyn ni i gyd mor ffodus i fyw.”
Roedd llawer o weithgareddau yn mynd ymlaen drwy’r dydd – plannu hadau, codi sbwriel, creu lluniau, edrych ar fwsog hefo microsgop, a chreu bocsys nythu i adar. Yn ogystal ag arwain taith beics ar y Lôn Las, bu Beics Ogwen ar y maes yn helpu i drwsio beics, rhoi gwynt yn nheiars pobl, neu roi cyngor cyffredinol iddynt am feicio yn yr ardal.
Cawsom ddarlithoedd hefyd gan Margot Saher am y wyddoniaeth tu ôl i newid hinsawdd, a gan Alison Cameron am ddifodiant a newid hinsawdd, yn ogystal â chwis hinsawdd fawr ar ddiwedd y dydd.
Roedd yr Ŵyl hefyd yn fan lansio i “Paned i’r Blaned”, syniad wedi ei hysbrydoli gan Climate Cafes a “People, Planet, Pint” – cyfle i bobl ddod at ei gilydd, cael paned a thrafod pethau i’w wneud a’r blaned a newid hinsawdd mewn atmosffer ymlaciol ac anffurfiol. Rydym yn gobeithio ymestyn y rhain ar draws y pum ardal GwyrddNi – mwy i ddod ar hyn yn fuan!
Fel rhan o Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Ogwen, un o’r syniadau a gytunodd y gymuned arni oedd creu gŵyl hinsawdd flynyddol – diwrnod i ddod a phobl a sefydliadau sydd yn ymwneud â gweithredu hinsawdd yn lleol at ei gilydd gyda’r gymuned a rhannu gwybodaeth am yr argyfwng hinsawdd a hyrwyddo datrysiadau hinsawdd bresennol Dyffryn Ogwen. Llynedd, bu’r Ŵyl Hinsawdd gyntaf ym Methesda.
“Roedd yn galonogol gweld cymaint o bobl leol yn dod i helpu gyda’r diwrnod,” meddai Maria. “Roedd hefyd yn gyfle gwych i mi fel dysgwr Cymraeg ymgysylltu â phobl leol am faterion gwirioneddol sydd o bryder gwirioneddol yn ein cymuned leol. Profiad mor anhygoel oedd siarad yr iaith mewn lleoliad hynod bwysig ond anffurfiol, a gyda chymaint o gefnogaeth gan Gymry Cymraeg lleol. Teimlais fy nefnydd o’r iaith – er ei fod yn gyfyngedig – yn FYW.”
Os ydych chi yn ffansi bod yn rhan o drefnu Gŵyl Hinsawdd 2025, cysylltwch hefo Chris: chris@ogwen.org