Cynnydd adroddiadau beiciau oddi ar y ffordd anghyfreithlon ym Methesda

Heddlu’n apelio am wybodaeth

Carwyn
gan Carwyn

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth am feicio oddi ar y ffordd anghyfreithlon yn yr ardal.

Mewn neges ar Facebook Heddlu Gogledd Gwynedd, mae’r llu yn dweud eu bod “wedi cael gwybod gan drigolion lleol bod beiciau oddi ar y ffordd yn cael eu gyrru’n beryglus ac yn anghyfreithlon yn ardal Bethesda.

“Da ni’n gofyn i unrhyw un efo gwybodaeth am y digwyddiadau yma, neu yn gwybod pwy sy’n gyfrifol, i gysylltu efo ni,” meddai’r neges.

Ychwanega Dan Dent, Rhingyll Plismona Cymdogaethau o Heddlu Gogledd Cymru: “’Da ni’n cymryd yr wybodaeth yma o ddifri, oherwydd bod ni’n deall yr aflonyddwch mae’n achosi yn ein cymunedau ni.

“Er mwyn i ni fedru targedu y rhai sy’n gyfrifol ac atafaelu’r beiciau, ‘da ni’n gofyn i aelodau’r cyhoedd roi gwybodaeth am y gyrwyr, cyn i wrthdrawiad difrifol ddigwydd.”

Mae’r neges yn annog unrhyw un efo gwybodaeth am feicio oddi ar y ffordd ym Methesda i ffonio Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111, neu drwy eu gwefan. Fel arall, gallwch chi gysylltu efo’r heddlu drwy eu gwefan neu ffonio 101.