Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn yn torri gwerth 10 hectar o goed ym Mharc y Bwlch, ger Bethesda, rhwng diwedd Tachwedd a diwedd Ionawr 2025.
Mae’r gwaith yn rhan o Gynllun Adnoddau Coedwig Bethesda ac Abergwyngregyn a ddatblygwyd yn 2021 gyda’r nod o arallgyfeirio rhywogaethau ac adeiladu coedwig fwy gwydn ar gyfer y dyfodol.
Mae’r gwaith cynaeafu, sy’n digwydd yng nghornel ogledd-orllewinol y goedwig, wedi’i amseru i osgoi cyfnod bridio gwiwerod coch a thymhorau nythu’r rhan fwyaf o adar, gyda gwiriadau’n cael eu gwneud o safbwynt cadwraeth cyn dechrau ar unrhyw waith.
Bydd contractwyr hefyd yn rheoli cyfeiriad y gwaith cwympo i alluogi unrhyw fywyd gwyllt i gilio i goed cyfagos o’r ardal sy’n cael ei thorri.
Dywedodd Kath McNulty, Arweinydd Tîm Cyfoeth Naturioln Cymru ar gyfer Gweithrediadau Coedwig Gogledd Orllewin Cymru:
“Bydd y gwaith hwn yn cynnwys coed llarwydd ym Mharc y Bwlch sydd wedi cyrraedd maint da ar gyfer cynaeafu.
“Yn anffodus yng Nghymru, mae coed llarwydd yn agored i glefyd ffwngaidd Phytophthora ramorum sy’n eu lladd, ac mae’n lledu’n gyflym. Mae cynaeafu’r coed cyn iddynt gael eu heintio yn helpu i arafu’r lledaeniad.
“Wrth ailblannu, ni fydd llarwydd yn cael eu defnyddio mwyach.
“Fel rhan o’r gwaith rydym yn cynnal arolygon amgylcheddol i leihau’r effaith ar yr amgylchedd.
“Hoffem ddiolch i aelodau’r cyhoedd am eu dealltwriaeth yn ystod y gwaith.”
Bydd rhai o’r coed sy’n cael eu cynaeafu ar gael i’w gwerthu i grwpiau cymunedol lleol.
Bydd y goedwig, gan gynnwys llwybrau cerdded, yn dal i fod ar agor i ymwelwyr a gofynnir i aelodau’r cyhoedd ddilyn yr holl arwyddion a chyfarwyddiadau gan staff pan fyddant ar y safle.
Mae’n bosib y bydd pren wedi’i dorri, a fydd yn cael ei brosesu i greu cynnyrch parhaol, yn parhau i gael ei symud o’r safle tan ddiwedd Ebrill.
Bydd y llwybr cludo ar hyd Lôn y Grug, dros y Bwlch i gyfeiriad Rhiwen ac ymlaen i’r A4244.