Cydnabod gwasanaeth meddyg o Dregarth i’r gwasanaeth iechyd

Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Dr Robert Havard Davies

Carwyn
gan Carwyn
9872574F-CE92-4C51

Dr Robert Havard Davies (llun o wefan y Bwrdd Iechyd)

image

Derbyniodd Dr Robert Havard Davies, Tregarth (ail o’r dde) fedal Ymerodraeth Brydeinig, gan yr Arglwydd Raglaw Edmund S Bailey, mewn seremoni yng Nghastell Caernarfon yn ddiweddar.

Yn y flwyddyn y dechreuodd Dr Robert Davies weithio fel meddyg ymgynghorol pediatrig, roedd galwyn o betrol yn 50c, peint o laeth yn 4.5c a pheint o gwrw yn 22.5c.

Enillodd Gorllewin yr Almaen Gwpan y Byd, cafodd Arlywydd yr Unol Daleithiau Richard Nixon ei ddal yng nghanol sgandal Watergate a disodlwyd Edward Heath fel Prif Weinidog y DU gan Harold Wilson – mae 1974 yn teimlo fel byd gwahanol. ​

Dyna pryd y dechreuodd Dr Robert Davies ar ei yrfa fel meddyg ymgynghorol pediatrig, ac mae bellach wedi ei gydnabod am oes o wasanaeth i’r maes iechyd.

Roedd ei ymrwymiad i sicrhau bod pobl ifanc yn derbyn gofal yn ymestyn y tu hwnt i ymddeoliad, pan benderfynodd ddod yn ôl fel meddyg ymgynghorol locwm a gweithio mewn clinig adolygu meddyginiaeth ar gyfer plant ag ADHD ac awtistiaeth ddifrifol.

Am ei wasanaeth i’r gwasanaeth iechyd, dros hanner canrif, mae Dr Robert Davies o Dregarth, yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig. ​Roedd yn un o lond llaw o ardal Gwynedd a Môn i dderbyn medal o’r fath mewn seremoni yng Nghastell Caernarfon yn ddiweddar.

Ar ôl derbyn ei wobr, dywedodd Robert: “Rwyf wedi fy synnu. Mae hynny’n crynhoi fy nheimladau mwy neu lai.”

Dechreuodd Robert, 82 oed, ei yrfa yn Ysbyty Dewi Sant ym Mangor sydd bellach wedi’i ddymchwel a hyd at 1995 bu’n gweithio yn yr uned gofal arbennig i fabanod.

Symudodd wedyn i faes pediatreg gymunedol ond parhaodd i weithio ym maes pediatreg gyffredinol ar-alwad yn Ysbyty Gwynedd ar benwythnosau.

Roedd tad Robert yn seiciatrydd ymgynghorol ac mae un o’i feibion yn baediatregydd ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. ​

Wrth ofyn pam ei fod yn parhau i weithio, dywedodd Robert: “Rwy’n mwynhau fy ngwaith, rwy’n mwynhau gweld cleifion a’u teuluoedd.

“Rwy’n hoffi’r her dechnegol ac, wrth gwrs, eu helpu.”