Canrif a hanner ers y Cau Allan yn Chwarel Dinorwig ym Mehefin 1874 (brwydr gyntaf Undeb y Chwarelwyr), mae gwahoddiad cynnes i bobl ddod ynghyd i gofio’r achlysur.
I ddeud gair neu i gyfrannu mewn ffordd arall neu i fod yn bresennol, gallwch ffonio 07718982732 (Eilian) neu 07500016235 (Elfyn).
COFIO’R GWRHYDRI, COFIO’R MARWOLAETHAU A CHOFIO ‘DDISTADL WERINOS Y SILICOSIS”.
Yn ôl “Canrif y Chwarelwr” gan Emyr Jones, y 18fed o Fehefin, 1874 (150 mlynedd yn ôl) oedd y Dydd Gosod pwysig pan roddwyd y dewis i Chwarelwyr Dinorwig rhwng yr Undeb a’u gwaith.
Yn y dyddiau canlynol , dewisodd 2200 o chwarelwyr yr Undeb ac un ar ddeg i’r gwrthwyneb – siawns bod hwn yn un o dyddiau pwysicaf yn hanes yr ardal?
Ar ddydd Sul, 23 Mehefin (y Dydd cyfleus agosaf) am 3pm ger y Cleddyf ar lan Llyn Padarn mae grŵp wyneplyfr(FB,) “Eryri Wen” yn eich gwahodd i goffau’r Dydd hanesyddol hwn drwy ganu emynau’r chwarelwyr (sef yr emynau a oedd yn ynghlwm a’r cloi allan a’r streiciau):
1 Gwaed y Groes (Ton: Bryn Calfaria)
2 O Arglwydd Dduw Rhagluniaeth”( Babel)
3 Duw Mawr y Rhyfeddodau Maith (Huddersfield)
4 Gwelaf Graig a’m deil i fyny( Sant Garmon)
5 O Fryniau Caersalem
Bob yn ail a’r canu, bydd darllen ar Awdl Lisi Jones, Y Fron “Y Chwarelwr”. Hon oedd y deyrnged orau ’rioed i’r chwarelwyr yn ein llenyddiaeth siawns?
Disgrifia rybelwr ifanc ar gychwyn ei waith, gofal ei fam amdano, a disgrifiad o’i dad yn cael ei ladd, a’r canlyniad:
“Mae’r aelwyd yn cymylu-oer y byd
A rhai bach i’w maethu
Y tylwyth heb benteulu-
Y tad o dan gaead du.
Da ŵr a pharod i’w waith-yn ei fedd
A gweddw fam dan artaith;
Nerthu a hybu’i gobaith
Wna’i serch at deulu o saith.”
Yna disgrifiad y mab yn dychwelyd fel rybelwr:
“Rol dyrnod drom a siomiant
Yn ifanc fel oen ufudd
I’r chwarel a’r rybelwr
I hela, begera am gerryg
Ac ar ei hyntoedd gwybu law grintach
A siom yn yr ymchwil siawns;
Siom yn y clwt sal
Diraen a gwniad ar ei hyd,
A hwn o’i naddu’n chwalu’ n ulw”
Ac ymlaen i ddisgrifio’r creigiwr:
“Y gwr cyhyrog pencampwr clogwyn
A esgyn yn heini ‘i osgo
I’w grefft ar ystlys y graig;
Ar rimyn uwch dibyn, a’i ebill
Hulia dwll i’r pylor
Hen grefft gywrain y graig,”
Yna yr holltwr:
“A daw i’w gweled yr holltwr wedyn
Llunia’r tewder ar gyfer y gofyn;
Adnebydd feflau, rhychau a chrychyn
Hollta’r nwydd afrwydd fel dalen llyfryn”
Ac ymlaen i ddisgrifio clefyd y Llwch:
“Ddistadl werinos y silicosis,
A’u cais i anghofio”u cwyn
Yn rhoi ystyr i’w troeon trwstan
Yn dirymu undonnog drymwaith
Di-ffrwyn eu tafodau ffraeth
Wrth ddyfal ysmalio
A gwamalu, a’r llwch yn gymylau,
Yn grebach afiach ar ysgyfaint,”
“A hwy yn ebyrth hen wybod
Yn wael a hen yn ganol oed”
Bydd croeso i eraill gymryd rhan gyda gair bach neu bennill wrth ffonio 07718982732 (Eilian,) neu 07500016235 (Elfyn).
Bydd Arfon Wyn (y Moniars) yno i’n helpu gyda chân neu ddwy a gair am ei deulu yn y chwarel.
Gobeithiwn y bydd rhai o Gôr Meibion Dyffryn Peris yno i’n helpu hefo’r canu hefyd.
Byddwn yno i gofio:
1. GGwrhydri y chwarelwyr yn y Cau Allan
2 I gofio’r400 a mwy a laddwyd yn y chwarel ac
3 I fynnu coffa da iddynt drwy i’r awdurdodau (Cyngor Gwynedd, Llechi Cymru a’r Pwyllgor Safle Treftadaeth Byd UNESCO) gymryd camau i ddileu’r sarhad o’r dringwyr yn ail-enwi y chwarel hefo enwau gwirion Saesneg.