Clwb Rygbi’n dathlu’r 50

Diwrnod llawn hwyl a gweithgareddau lawr yn Nol Ddafydd

Carwyn
gan Carwyn
IMG_2938
IMG_2939

Nôl yn 1974, daeth criw bach ynghyd a rhoi cynnig ar gael tîm rygbi ym Methesda.

Bryd hynny, prin oedd y timau yn y gogledd ond trwy ddyfalbarhad ac ymdrech nifer o wirfoddolwyr, mae Clwb Rygbi Bethesda wedi mynd o nerth i nerth.

Bydd yna ddiwrnod arbennig o ddathlu 50 mlwyddiant y clwb heddiw. Ewch draw i fwynhau’r chwarae – gêm y tîm cyntaf yn erbyn Rygbi Gogledd Cymru a’r criw ieuengaf yn chwarae gêm tag am hanner amser.

Mae’n cynnig cyfle i gyn chwaraewyr a chefnogwyr ddod yn i hel atgofion, gyda gig gan y band poblogaidd lleol Hogia’r Bonc heno.

Mae’n addo bod yn ddiwrnod i’w gofio!

Dweud eich dweud