Clwb Criced Bethesda’n paratoi at 2025

Tîm dynion wedi eu dyrchafu i Uwch Adran Cynghrair Criced Gogledd Cymru

Carwyn
gan Carwyn

Gyda thîm dynion criced Bethesda wedi sicrhau dyrchafiad ar gyfer y tymor nesaf, mae’r clwb yn cynllunio’n barod ar gyfer 2025.

Y tymor nesaf, bydd y tîm cyntaf yn chwarae yn Uwch Adran Cynghrair Criced Gogledd Cymru wedi blwyddyn lwyddiannus  eleni.

A chyda hynny, mae’r Clwb Criced wedi rhoi’r alwad allan yn barod af gyfer y tymor nesaf.

“Mewn tymor llwyddiannus iawn fe orffennwyd yn 2il yn y gynghrair, ar ôl 16 buddugoliaeth, 4 colled a 2 gêm wedi’u canslo allan o’r tymor 22 gêm,” meddai neges gan y Clwb Criced.

“Bydd y clwb yn rhedeg dau dîm dydd Sadwrn yn 2025 yn ogystal ag amryw o tîmau ieuenctid a thîm Merched.

“Byddwn yn croesawu chwaraewyr hen a newydd i’r clwb. Os ydych chi’n chwaraewr newydd i’r gêm neu’n chwaraewr profiadol eisiau gwybod mwy am y clwb mae croeso i chi yrru neges i ni.

“Unrhyw un sy’n dymuno ymuno â ni ar y daith hon (Chwaraewyr, Gwirfoddolwyr neu Noddwyr) anfonwch neges atom i ddarganfod mwy neu llenwch y ddolen gyswllt yma”

Dweud eich dweud