Gŵr lleol fu’n allweddol yn hanes sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru fydd testun Darlith Goffa Orwig a fydd yn cael ei chynnal yn Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen, Bethesda ar nos Lun, 10 Mehefin.
Glyn Tomos, sy’n enedigol o Ddeiniolen ond bellach yn byw yng Nghaernarfon – ac yn un o olygyddion Papur Dre – fydd yn traddodi’r ddarlith eleni.
Mae o wedi dewis traethu ar H. R Jones, gwr arall o Ddeiniolen, ac a fu’n allweddol yn hanes sefydlu Plaid Cymru. A bydd Plaid Cymru wrth gwrs yn dathlu ei chanmlwyddiant ers ei sefydlu yn 1925, flwyddyn nesaf.
“Dwi’n siŵr bydd hon yn ddarlith gwerth chweil, ac yn dangos cymaint bu i gymeriadau o ardal y llechi yma yn Arfon gyfrannu at ein hanes cenedlaethol,” meddai Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd.
Mae’r ddarlith yn cael ei chynnal er cof am y diweddar Gynghorydd Dafydd Orwig, ac yn cael ei drefnu gan Lyfrgelloedd Gwynedd mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Ogwen.
Y manylion llawn: – Darlith Goffa Dafydd Orwig, Nos Lun, 10 Mehefin 2024 am 7.30pm – mynediad am ddim. ‘Gŵr â Chymru yn ei Galon’ H.R.Jones – Trefnydd Cyntaf Plaid Genedlaethol Cymru – gan Glyn Tomos.