Cerbydau trydan cymunedol ar gael yn lleol

Prysurdeb Trafnidiaeth Cymunedol – Cerbydau trydan Partneriaeth Ogwen

Menna Thomas
gan Menna Thomas

Gyda mwy a mwy o drigolion y Dyffryn yn gwneud defnydd o gerbydau trydan Partneriaeth Ogwen, roedd pob un o’r cerbydau’n brysur o gwmpas y lle ar ddydd Gwener yn mynd a thrigolion o le i le a chasglu bwydydd.

Roedd y bws mini trydan yn mynd a chriw o deithwyr i ganolfan siopa Tweedmill ger Dinbych, ac Efan y cerbyd aml-ddefnydd MPV wedi mynd draw i gynhadledd ym Mae Colwyn. Ar yr un adeg, roedd Tryfan y fan yn casglu bwyd Fareshare ar gyfer Clwb Bwyd Hwb Ogwen. Defnyddiwyd Carnedd, y cerbyd teulu (estate) hefyd ar gyfer teithio i gyfarfodydd ym Mlaenau Ffestiniog.

Golyga hyn fod y fflyd gyfan allan ar hyd a lled gogledd Cymru – gan godi ymwybyddiaeth o drafnidiaeth gymunedol carbon isel, a hynny heb lygru’n amgylchedd.

Esiampl arall diweddar o gludiant cynaliadwy’r Bartneriaeth ar waith oedd taith siopa i Landudno ar gyfer trigolion lleol.

Dyma un o gyfres o deithiau sydd ar gael ar benwythnosau ar gyfer cymunedau’r Dyffryn, a hyn yn ogystal â theithiau siopa rheolaidd ar fore Llun i Ffordd Caernarfon ym Mangor.

Rydym hefyd yn darparu cludiant gwyrdd ar gyfer unigolion i fynd i apwyntiadau meddygol, deintydd ac ati.

Felly, i wneud y mwyaf o’r cerbydau sydd ar gael, cysylltwch ar e-bost cludiant@ogwen am fanylion pellach neu ffonio 07394906036.