Os ydych chi’n dal i chwilio am anrheg fach i ffrind neu aelid o’r teulu, beth well na Chalendr Llais Ogwan 2025?
Yr anrheg berffaith i drigolion yr ardal neu rhai sy’n cofio’n annwyl am Ddyffryn Ogwen.
Mae’r calendr, sy’n cynnwys lluniau lliw hardd o olygfeydd o amgylch ardal y dyffryn gan gyfranwyr lleol, ar gael o’r siopau a gwerthwyr lleol.
Wrth gyhoeddi fod y calendr wedi cyrraedd y siopau, talwyd teyrnged i’r rhai fuodd ynghlwm â’r gwaith paratoi.
“Hoffem ddiolch eto eleni am gymorth gan Glwb Camera Dyffryn Ogwen i ddenu a dewis y lluniau ar gyfer y Calendr a diolchwn hefyd i Wasg Carreg Gwalch am eu gwaith wrth gysodi ac argraffu’r Calendr,” meddai neges gan Lais Ogwan.
Mae’r Calendr ar werth am £4.50 eleni yn y siopau canlynol:
- Siop Ogwen, Bethesda
- Londis, Bethesda
- Barbwr Ogwen, Stryd Fawr, Bethesda
- Caffi Seren, Bethesda
- Post Rachub
- Siop yn Llys Y Gwynt
- Siop Na Nog, Caernarfon
- Awen Menai, Porthaethwy
Gellir danfon y Calendr trwy’r post am bris ychwanegol. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau archebion at Now Jones drwy ffonio 01248 600184neu daro e-bost i: post@llaisogwan.com