Arbrofi gyda beic trydan Beics Ogwen

Trigolyn o Dregarth yn cael hwyl gyda beic trydan

Menna Thomas
gan Menna Thomas

Wedi bod yn feiciwr brwd ers rhai blynyddoedd, ‘roedd Peter Doyle o Dregarth yn awyddus i ymchwilio beiciau trydan ar gyfer dringo gelltydd yr ardal.

Daeth i gysylltiad gyda Beics Ogwen ac ar ddiwrnod oer ym mis Mawrth benthycodd feic am y diwrnod gyda’r bwriad o brynu un newydd iddo’i hun maes o law. Wedi cael anwythiad i’r beic ffwrdd ag ef am y diwrnod.

Dychwelodd ar ddiwedd y p’nawn gyda bochau coch ond wedi cael diwrnod gwerth chweil.

Meddai Peter, “Dwi’n ddiolchgar iawn i Beics Ogwen am gael hurio’r beic am y diwrnod. Rydw i wrth fy modd yn beicio ond wedi cyrraedd 81 oed (ac yn 82 erbyn ysgrifennu’r erthygl hwn!) ‘rydw i angen ‘chydig bach o hwb wrth fynd i fyny’r allt.

“‘Roedd cael defnyddio’r ‘Cube’ am ddiwrnod yn gyfle gwych i gael treialu beic trydan cyn prynu un newydd.

“Mi faswn i’n annog unrhyw un sydd wedi meddwl am gael beic trydan i gysylltu gyda Beics Ogwen – mae’r beic yn bwerus ac yn gyfforddus i reidio. Ewch amdani!”

Am fwy o wybodaeth am Feics Ogwen, ewch draw i’r wefan.

Dweud eich dweud