Mae’r llenor Manon Steffan Ros wedi derbyn anrhydedd o Brifysgol Aberystwyth.
Dyma’r ail gydnabyddiaeth prifysgol i’r awdur sydd a’i gwreiddiau yma yn Nyffryn Ogwen ei dderbyn yn ddiweddar. Mae’n dilyn Gradd er Anrhydedd o Brifysgol Bangor.
Cymrodoriaeth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i’r awdur, y colofnydd a’r sgriptiwr, Manon Steffan Ros.
Mae wedi ennill sawl gwobr am ei gwaith, gan gynnwys Llyfr y Flwyddyn, Gwobr Tir Na N’Og, Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, a Medal Yoto Carnegie am Ysgrifennu.
Doniau creadigol sylweddol
Cyflwynwyd Manon Steffan Ros yn Gymrawd er Anrhydedd gan Mererid Hopwood, Athro Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ddydd Mercher 17 Gorffennaf 2024.
“Mae heddiw, raddedigion newydd, wrth reswm yn ddiwrnod arbennig,” meddai Mererid Hopwood yn ystod y seremoni.
“Diwrnod i’w gofio. Byddwch yn gadael â swfenîrs y lluniau ohonoch mewn dillad go ryfedd yn dal tystysgrif sydd, ar y naill law’n cydnabod cau drws ar y gwaith caled y tu ôl i chi ac ar y llall sy’n allwedd i ddrysau newydd eich dyfodol. Ond yn llun y cof, dyna fraint fydd cael edrych yn ôl ar heddiw a gwybod eich bod wedi rhannu’r llwyfan hwn â rhywun mor gwbl arbennig â’n Cymrawd newydd ni: Manon Steffan Ros.
“I unrhyw un sy’n caru iaith, llenyddiaeth, cerddoriaeth, ffilm, drama, theatr a chyd-ddyn – dyma wraig sydd wedi defnyddio ei doniau creadigol sylweddol i agor ein llygaid ni i ystyried pob un o’r meysydd hyn o’r newydd.
“Enillodd wobrau lu am ei chreadigaethau: Medal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol – ddwywaith; Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol; Gwobr Llyfr y Flwyddyn; Gwobr Tir na n’Og, … ac ymhlith y gwobrau diweddaraf – Medal Yoto Carnegie sy’n gydnabyddiaeth ryngwladol – am ei chyfieithiad hi ei hun o Lyfr Glas Nebo: The Blue Book of Nebo. Hwn oedd y tro cyntaf erioed i banel mawreddog y wobr hon osod cyfieithiad yn y safle cyntaf. Tipyn o gamp!
“Ac wrth dderbyn y wobr, nododd Manon mai un o freintiau mwyaf ei bywyd oedd y ffaith fod ganddi ddwy iaith a bod hynny wedi dod â chymaint o lawenydd a chyfleoedd iddi.”
Ysbrydoliaeth
“Yn sicr ddigon, rwyt ti Manon, wedi cyfoethogi ein bywydau ninnau’n fawr iawn drwy dy allu i drin geiriau ym mha bynnag gyfrwng,” ychwanegodd Mererid Hopwood.
“Mae dy weithiau di’n ysbrydoliaeth i’n myfyrwyr ni – y deialogi, y tempo, y ffrâm stori, y cymeriadu, y tyndra, y dweud dramatig a thelynegol … ac mae colofn wythnos Golwg yn batrwm i unrhyw un a fynn ddysgu cynildeb.
“Yn ystod wythnos yr etholiad, wrth roi’r llwyfan i’r ferch heb ddigon o arian i dalu rhent, dywedaist fel hyn: ’da’n ni’n cyfri, ond ’da ni ddim wastad yn cael ein cyfri’.
“Mae gwers bwysig yno – inni gyd – ac wrth fynd ar eich taith o’r lle hwn, raddedigion – cofiwch eiriau Manon – mae pawb yn cyfri.
“Ac yn sicr ddigon, ein braint ni heddiw, Manon Steffan Ros, yw cael dy gyfri dithau yn un ohonom ni.”