Allwch chi helpu Prosiect Peilot Dewis Cymru?

Cyngor Gwynedd yn hybu’r wefan Dewis Cymru er mwyn cefnogi grwpiau cymunedol a’r trydydd sector

gan Iwan Huw Roberts

Ydych chi wedi clywed am y gwefan Dewis Cymru? www.dewis.cymru

Os na, gwefan yw ‘Dewis’ sydd wedi ei chreu i ganolbwyntio ar lesiant personol, drwy rannu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau. Mae wedi ei baratoi yn bwrpasol gan Lywodraeth Cymru yn dilyn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cefnogi ‘Dewis’ ar hyd y blynyddoedd ond bellach mae prosiect newydd i geisio hyrwyddo ac ehangu’r defnydd ohono ym mhellach, a hynny gan y Cyngor a’r gymuned ehangach. Credwn y gall ‘Dewis’ gynorthwyo unigolion i ddarganfod cymorth a chefnogaeth, ac felly mae’n hynod bwysig fod pawb yn ymwybodol o’r wefan arbennig hon.

Yn bresennol mae nifer o wasanaethau a gwybodaeth statudol ar ‘Dewis’ a hoffem eu hyrwyddo ond law yn llaw hoffem ganolbwyntio ar gynyddu’r wybodaeth sydd yno. Hoffem weld grwpiau cymunedol a grwpiau trydydd sector yn mewnbynnu gwybodaeth, digwyddiadau a mwy. Dyma ble rydym eisiau eich cymorth chi!

Os ydych yn rhan o glwb, dosbarth neu yn trefnu digwyddiad sydd yn digwydd yn rheolaidd, rhannwch y wybodaeth. Gall y rhain fod yn llu o ddigwyddiadau gwahanol o gorau i Ferched y Wawr ac o gwis tafarn i wersi jiwdo.

Mae Cyngor Gwynedd a Dewis Cymru yno i’ch cynorthwyo i hyrwyddo’r sesiynau. Mae ‘Dewis’ yn wefan hawdd i’w defnyddio ac yn well na dim, yn rhad ac am ddim! Felly, beth amdani? Ewch i ychwanegu eich adnodd drwy ymweld â’r wefan, cofrestru ac yna clicio ‘rheoli eich adnoddau’.

Os dymunwch gymorth i fewnfwydo’r wybodaeth anfonwch eich manylion cyswllt i dewis@gwynedd.llyw.cymru, ac fe gysylltwn â chi cyn gynted ag sydd phosib er mwyn eich cynorthwyo. Os yw mynediad at gyfrifiadur yn broblemus, gall  Llyfrgell Bangor gamu i’r adwy. Yno fe ddewch o hyd i gyfrifiaduron a gall y llyfrgellydd eich cynorthwyo pe byddai angen.

Yn y cyfamser, beth am chwilio am ddigwyddiadau lleol yn eich ardal chi? Ewch am gip ar Dewis.cymru, nodwch eich cod post a buan daw rhestr o ddigwyddiadau ar eich sgrin. Cofiwch alw heibio’r wefan yn rheolaidd dros y misoedd nesaf, fel y gallwch brofi’r wefan yn tyfu a chryfhau gyda bwrlwm o wasanaethau, grwpiau a digwyddiadau!

Pe dymunwch gysylltu gyda chwestiwn, sylwad neu gais mae croeso i chi e-bostio’r cyfeiriad dewis@gwynedd.llyw.cymru. Gyda’n gilydd gallwn roi ‘Dewis’ i bawb.