Allech chi fod yn aelod o Gôr y Penrhyn

Cyfle i gael blas ar ganu efo’r côr meibion

Carwyn
gan Carwyn
IMG_3078

Mae Côr y Penrhyn yn cynnal noson agored yng Nghlwb Rygbi Bethesda ar y 4ydd o Dachwedd 2024.

Os oes gennych awydd, dewch draw i gael blas ar fod yn aelod o un o’r corau meibion prysuraf yng Nghymru.

Byddwch yn siŵr o gael croeso cynnes gan yr aelodau, a chyfle i ganu gyda’r côr yn ystod yr ymarfer.

Mae nifer o gyngherddau yng nghalendr y côr. Yn 2025 mae’r côr yn mynd ar daith i Ganada i ganu yng Ngŵyl Cymru Gogledd America, ac yn 2026 byddant yn ymweld â Notzingen yn yr Almaen i ddathlu 50 mlynedd o gysylltiad gyda band pres y dref.

Felly ewch draw i Glwb Rygbi Bethesda ar 4ydd Tachwedd os oes diddordeb rhoi cynnig ymuno gyda Chôr y Penrhyn.

Dweud eich dweud