Sesiynau ymarfer corff wythnosol i bobl hŷn

Croeso cynnes i bobl o bob gallu yn nosbarthiadau Heini Pesda

Carwyn
gan Carwyn
D1218F57-302B-4C8C-91EE

Mae Dementia Actif Gwynedd yn cychwyn dosbarth wythnosol newydd o ymarfer corff i bobl hŷn yr ardal.

Bydd Heini Pesda yn cael ei gynnal bob prynhawn Mercher o 15 Mawrth ymlaen. Cynhelir y sesiynau cynhwysol bob wythnos yng Nghlwb Rygbi Bethesda o 2 tan 3.30 y prynhawn.

Cyfle i gadw’n heini a chymdeithasu

Bydd y dosbarth yn cynnwys awr o ymarfer corff – megis ymarferion ysgafn yn y gadair/cryfder a chydbwysedd neu Boccia – ac yna bydd hanner awr olaf y sesiwn ar gyfer cael paned a chymdeithasu.

Mae Dementia Actif Gwynedd yn dweud y bydd croeso cynnes i oedolion hŷn o bob gallu.

Mae’r dosbarth yn gynhwysol ac yn addas i bobl sydd â dementia, ynghyd â phobl sydd heb ddementia ond a fyddai’n cael budd o gadw’n actif a chael cyfle i gymdeithasu.

Am fwy o fanylion, cysylltwch ag Anwen Plumb ar 0758 545 4583 neu e-bostio: anwenplumb@gwynedd.llyw.cymru