Dwy Record Brydeinig i’r Cneifiwr o Nant Ffrancon a chasglu £5,264.00 i ddwy elusen.
Mae Elfed Jackson, y cneifiwr gwelleifiau o Fraich Tŷ Du, Nant Ffrancon ynghyd a’i ffrind a chyd-gneifiwr Andy Wear o Wlad yr Haf, wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais o greu Record Brydeinig Cneifio gyda Gwelleifiau.
Codwyd £5,264.00 i’w rannu rhwng dwy elusen werthfawr yn y byd amaethyddol sef Sefydliad DPJ a Farming Community Network.
Cneifiodd y ddau 330 o ddefaid mewn naw awr, record gyntaf o’i math ym Mhrydain.
Cafodd Elfed hefyd y record unigol am gneifio 170 o ddefaid.
Mae Elfed wedi bod yn aelod o dîm Cneifio Cymru ers 1998 ac wedi trafeilio’r byd yn cynrychioli Cymru mewn 10 Pencampwriaeth Cneifio’r Byd
Bydd yn cystadlu eto eleni ym Mhencampwriaeth y Byd sydd yn cael ei gynnal yn yr Alban mis Gorffennaf
Dymuna Elfed ddiolch yn fawr iawn i drigolion yr ardal, unigolion, busnesau a sefydliadau lleol am eu cefnogaeth ariannol tuag at noddi’r digwyddiad, a’r rhoddion hael tuag at y ddwy elusen a hefyd diolch yn fawr iawn i deulu a ffrindiau a deithiodd lawr i Wlad yr Haf i’w helpu a’i gefnogi.