Yn sgil penderfyniad Hywel Williams AS i ymddeol pan ddaw tymor presennol Senedd San Steffan i ben, mae Plaid Cymru wedi dechrau’r broses o ddewis ymgeisydd i sefyll yn Arfon petai etholiad yn cael ei alw yn fuan.
Serch hynny, bydd trefniadau etholaethol newydd yn dod i rym ym mis Gorffennaf, gyda Chymru yn cael 32 o seddi yn San Steffan yn lle’r 40 presennol, ac Arfon ymhlith y rhai fydd yn cael eu dileu. Os na fydd etholiad cyn hynny, bydd Dyffryn Ogwen wedyn yn rhan o etholaeth enfawr newydd sy’n ymestyn yr holl ffordd i Efenechtyd, ger Rhuthun.
Un o’r rhai sy’n cael eu hystyried ar gyfer rôl darpar ymgeisydd yn Arfon yw’r Dr Paul Rowlinson, Cynghorydd lleol sy’n cynrychioli ward Rachub ar Gyngor Gwynedd.
Am wella bywydau pobl
Mae’n talu teyrnged i Hywel Williams, gan ganmol ei waith yn helpu cannoedd o etholwyr gyda’u problemau dros y blynyddoedd a bod yn llais cryf dros anghenion ein cymunedau yn San Steffan.
“Mae bob amser yn bleser bod gyda Hywel pan ddaw i Ddyffryn Ogwen, i gynnal cymhorthfa, mynychu cyfarfod neu ymweld â phobl ar stepan y drws,” meddai Paul.
“Mae’n amlwg bod ganddo ddiddordeb mawr mewn pobl, mae’n malio amdanyn nhw ac yn ceisio gwella eu bywydau.
“A dyma pam rwyf finnau hefyd yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth, nid er mwyn tynnu sylw ataf fi fy hunain, ond achos dwi ni am wella bywydau y bobl sy’n byw yn fy nghymuned a thu hwnt.”
Mae Paul yn weithgar yng nghymuned Dyffryn Ogwen, yn gadeirydd Bwrdd Llywodraethu Ysgol Dyffryn Ogwen, yn gyn-gadeirydd Partneriaeth Ogwen ac un o sylfaenwyr Ynni Ogwen.
Tu hwnt i’r Dyffryn, mae’n aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru, corff sy’n cynrychioli llais y cleifion yn y gwasanaeth iechyd, Mantell Gwynedd a Chyngor Llyfrau Cymru.
“Mae llawer o bethau cyffrous yn digwydd yma yn Nyffryn Ogwen, a chymaint o bobl weithgar wedi cyflawni gwaith da iawn”, meddai.
“Mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yw un o’r materion pwysicaf sy’n ein hwynebu a thrwy Ynni Ogwen, y Dyffryn Gwyrdd a mentrau cymunedol eraill, rydym yn mynd ati o ddifrif. Mae pobl wedi dod ynghyd yma, ac mewn cymunedau ledled y wlad, i helpu ei gilydd yn wyneb y pandemig a’r argyfwng costau byw.
“Ond i lawer yn Llywodraeth San Steffan, mae’r materion hyn yn gyfle i dorri ar wasanaethau cyhoeddus a hawliau gweithwyr a hyd yn oed roi contractau i alluogi eu cyfeillion i wneud elw mawr allan o ddioddefaint pobl eraill.
“Dwi’n credu’n gryf y bydd gwell siâp ar Gymru os ydym ni’n llywodraethu ein hunain, mewn gwlad annibynnol efo llywodraeth sy’n cefnogi ein cymunedau a’n gwerthoedd ni.”
“Barod am yr her”
Mae Paul wedi cael gyrfa amrywiol, wedi gweithio fel athro ac wedyn ym maes tai a llywodraeth leol, cyn sefydlu busnes gyda Ffion ei wraig fel cyfieithwyr llawrydd. Magwyd eu plant ym Methesda, gan fynychu ysgolion Llanllechid a Dyffryn Ogwen, ac yma maen nhw’n byw o hyd.
Yn rhan o’r teulu hefyd ar hyn o bryd mae merch o Wcráin sydd wedi ymgartrefu gyda Paul a Ffion nes ei bod yn saff iddi ddychwelyd adref. Yn 2010, sefydlodd Paul fenter Bugeiliaid Stryd Bangor ac mae’n mwynhau mynd allan yn hwyr yn y nos gyda’r Bugeiliaid yn gofalu am bobl ifanc ac eraill yn y ddinas.
“Mae’n annhebygol y bydd etholiad cyffredinol cyn i etholaeth Arfon gael ei dileu ym mis Gorffennaf,” meddai Paul.
“Ond petai’r llywodraeth anhrefnus hon yn syrthio ac yn galw un buan, byddaf yn barod am yr her!”
Cynhelir cyfarfodydd hysting i ddewis darpar ymgeisydd Plaid Cymru yn yr Institiwt, Caernarfon, ar 19 Ionawr ac yng Nghlwb Rygbi Bethesda nos Wener 20 Ionawr, pan fydd gan aelodau’r Blaid gyfle i holi’r ymgeiswyr a phleidleisio.
Mae Paul Rowlinson yn un o dri ymgeisydd lleol i roi eu henwau ymlaen i olynu Hywel Williams, ac mae manylion am yr ymgeiswyr eraill, Catrin Wager a Beca Roberts ar gael ar gael ar wefan Ogwen360.