Partneriaeth Ogwen ar restr fer gwobrau cenedlaethol

Y bartneriaeth yng nghategori Menter Gymdeithasol y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru

Carwyn
gan Carwyn

Mae Partneriaeth Ogwen wedi cyrraedd y tri olaf ar gyfer un o brif wobrau Busnes Cymdeithasol Cymru.

Bwriad y gwobrau sy’n cael eu cynnal am yr wythfed tro eleni ydi “Dathlu’r mentrau cymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth yng Nghymru.”

Mae’r fenter gymdeithasol o Ddyffryn Ogwen ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn. Fel y bydd trigolion yr ardal yn ymwybodol, fe gafodd Partneriaeth Ogwen ei sefydlu degawd yn ôl trwy gydweithio arloesol gan Gynghorau Cymuned Bethesda, Llanllechid a Llandygai i ddarparu gwasanaeth clercio i’r 3 chyngor ac i ddatblygu prosiectau cymunedol.

Ers hynny, mae’r Bartneriaeth wedi datblygu i fod yn gorff hynod bwysig yn lleol, gydag ymrwymiad i greu budd cymunedol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol i’w hardal leol yn Nyffryn Ogwen.

Maent wedi agor Swyddfa Ogwen a Siop Ogwen ar Stryd Fawr Bethesda, rheoli eiddo yn cynnwys fflatiau, busnesau a Llyfrgell Gymunedol Dyffryn Ogwen.

Maent hefyd wedi datblygu prosiectau amgylcheddol llwyddiannus fel Dyffryn Gwyrdd, a sefydlu cynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen ynghyd â phrosiectau mwy diweddar fel Cadwyn Ogwen sy’n hyrwyddo a hybu cynnyrch lleol ar y cyd a chynhyrchwyr yr ardal.

Mae’r wobr Menter Gymdeithasol y Flwyddyn a noddwyd eleni gan Dwr Cymru yn agored i fenter gymdeithasol sydd wedi bod yn gweithredu ers dros ddwy flynedd neu fwy, ac “sydd wedi dangos gweledigaeth a chyfeiriad strategol rhagorol, arweinyddiaeth a rheolaeth glir o’r sefydliad, ac ymrwymiad i effaith gyfannol y tu hwnt i’w cenhadaeth gymdeithasol/amgylcheddol graidd.”

Hei lwc i Bartneriaeth Ogwen, sy’n cystadlu gyda Car y Môr a Galeri Caernarfon Cyf.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 18 Hydref, gyda’r enillwyr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng Ngwobrau Menter Gymdeithasol y DU ym mis Rhagfyr.

Mae mwy o wybodaeth am holl waith Partneriaeth Ogwen ar gael ar eu gwefan.