Gyda Nadolig mewn llai na mis, cofiwch y bydd modd parcio am ddim ym maes parcio Cae Star ym Methesda ar ôl 11am bob diwrnod o 9 tan 26 Rhagfyr.
Bydd y cynllun ym mhob un o feysydd parcio cyhoeddus Cyngor Gwynedd, felly cofiwch am hynny pan fyddwch yn piciad i nôl anrhegion neu fwydydd o Fethesda a threfi eraill y sir.
Cefnogi siopau lleol
Mae’r cynnig yn rhan o ymgyrch i annog pobl i wneud eu siopa yn lleol y Nadolig yma, fel yr esbonia’r Cynghorydd lleol, Dafydd Meurig sy’n Aelod Cabinet Amgylchedd Gwynedd.
“Mae cyfnod y Nadolig yn gyfnod hynod bwysig i’r sector siopau ac adloniant, ac felly mae’n bwysig ein bod yn gwneud pob ymdrech i gefnogi ein busnesau lleol,” meddai Dafydd Meurig.
“Dyna pam fod Cyngor Gwynedd yn cynnig parcio am ddim yn ein meysydd parcio bob diwrnod, o 11am ymlaen rhwng 9 a 26 Rhagfyr.
“Trwy wneud hynny, rydym yn gobeithio y bydd trigolion Gwynedd a thu hwnt yn cefnogi’r amrywiaeth o fusnesau bach sy’n asgwrn cefn ein cymunedau.”
Amgylchedd
Trwy siopa yma yn lleol, byddwch hefyd yn osgoi teithiau hir yn y car i ddinasoedd mawr ac yn golygu lleihau allyriadau carbon.
“Nid yn unig bydd hynny’n hwb i’r economi leol, ond bydd hefyd yn dangos nad oes angen teithio’n bell i wneud eich siopa Nadolig,” ychwanegodd y Cynghorydd Meurig.
“Felly, os ydych chi’n chwilio am anrhegion arbennig, yn prynu bwyd a diod ar gyfer y dathliadau Nadoligaidd, cofiwch am y cyfoeth o fusnesau bach a chrefftwyr lleol yma yng Ngwynedd, a gwnewch y mwyaf o’r parcio am ddim.”
Y trefniadau
Bydd parcio am ddim ym meysydd parcio cyhoeddus y Cyngor Sir yn cychwyn ar ddydd Sadwrn, 9 Rhagfyr. Bydd y parcio am ddim o 11am bob dydd tan Ddydd San Steffan, gyda ffioedd yn ail-gychwyn o 27 Rhagfyr.
Cofiwch mai ymgyrch ym meysydd parcio cyhoeddus Cyngor Gwynedd ydi hwn. Bydd arwydd ar bob peiriant talu ac arddangos ym meysydd parcio cyhoeddus y Cyngor, felly os nad oes nodyn i’w weld, dylech wirio os ydi o’n faes parcio’r Cyngor.
Mae gan y Cyngor hefyd nifer o feysydd parcio di-dâl hefyd, felly gwnewch y mwyaf o’r cynnig a chefnogi ein siopau a chrefftwyr lleol.