Aeth Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS draw i Gae Rhosydd yn Rachub i ymweld â datblygiad tai fforddiadwy newydd sbon ar yr hen safle hanesyddol.
Mae cymdeithas dai Adra, wedi datblygu’r safle i gynnwys 30 o gartrefi modern, gan gynnwys 26 o dai a 4 byngalo, sy’n gymysgedd o gartrefi rhent cymdeithasol a rhent canolradd. Mae gan bob un o’r tai ar y datblygiad dystysgrif perfformiad ynni (EPC) A, yn ogystal â phaneli solar a phwyntiau gwefru ceir trydan. Maen nhw’n cael eu gwresogi gan Bympiau Gwres Ffynhonnell Aer.
Yn ôl Siân Gwenllian AS:
“Mae cyfran uchel o’m llwyth gwaith achos yn ymwneud â’r angen dybryd lleol sydd am dai, ac mae’n braf ymweld â datblygiad newydd sy’n chwarae rhan wrth fynd i’r afael â’r angen hwnnw.
“Mae’n wych clywed hefyd bod cynaliadwyedd wrth galon y datblygiad, a bod Adra yn gwneud eu rhan wrth fuddsoddi mewn technoleg werdd er mwyn lleihau ôl-troed carbon y tai.
“Rwy’n edrych ymlaen at weld teuluoedd ac unigolion lleol yn dechrau pennod newydd yn eu bywydau yn y tai hyn, gan sicrhau fod cymuned Rachub yn parhau i ffynnu.”
Ychwanegodd Hywel Williams AS:
“Roeddwn yn falch iawn o’r cyfle i ymweld â’r datblygiad newydd. Mae’r safon yn ardderchog a bydd y tai a’r byngalos yn rhoi y cartrefi clud parhaol i bobl lleol mae cymaint o alw amdano.”