Cân newydd Dafydd Hedd – Bia y Nos

Y sengl yn cael ei rhyddhau ar 15 Medi

Carwyn
gan Carwyn
DafyddHedd

Mae’r cerddor ifanc lleol, Dafydd Hedd wedi bod yn brysur yn Studio Un ym Methesda gyda band newydd yn ddiweddar, ac yn barod i ryddhau sengl newydd ‘Bia y Nos’ ymhen y mis.

“Ysgrifennais ‘Bia Y Nos’ blwyddyn yn ôl, yng nghanol yr argyfwng sbeicio diodydd i fagu hyder dioddefwyr ac anfon neges,” meddai Dafydd.

“Dylai pawb allu mwynhau noson allan heb ots pwy ydyn nhw. Roedd yr argyfwng yn ofnadwy ym Mryste, lle rwy’n fyfyriwr, felly fe wnes i drosglwyddo fy rhwystredigaeth ail-law yn uniongyrchol i’r gân hon.”

Bydd y gân newydd ar gael i’w ffrydio a phrynu o 15 Medi, meddai Dafydd.

“Yn gerddorol, mae ganddo deimlad tebyg i Radiohead, Declan McKenna, CHROMA, Mellt, Red Hot Chilli Peppers a Sam Fender. Mae’n nodweddiadol o’n naws indie ‘chill’ sy’n datblygu, yn enwedig lle mae’r alawon gitâr gwahanol yn gorwedd ar ben ei gilydd.

“O ran themau’r geiriau, mae’n dadansoddi anghyfiawnder cymdeithasol, diogelwch, cryfder cymunedol a’r syniad fod na bobl yn edrych allan amdanoch.

“Mewn ychydig o eiriau: anthem indie ffeministaidd sy’n cyflwyno pwer, ysbrydoliaeth a gwneud i bobl deimlo’n ddiogel.”

Am fwy o hanes Dafydd Hedd, cofiwch ei ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol neu ewch draw i’w wefan.