Mae Manuela Niemetscheck o Fethesda wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer Dysgwr y Flwyddyn 2023.
Pum iaith
Yn wreiddiol o Ganada, mae Manuela Niemetscheck yn byw ym Methesda gyda’i theulu ac yn gweithio fel Seicotherapydd Celf yn Ysbyty Gwynedd.
Mae Manuela’n siarad pum iaith a dysgodd Gymraeg drwy Wlpan a mynychu Nant Gwrtheyrn.
Cafodd ei hysbrydoli i ddysgu ein hiaith nid yn unig oherwydd ei theulu a’i chymuned, ond hefyd gan ei bod yn credu bod defnyddio Cymraeg mewn gwasanaethau iechyd meddwl yn eithriadol bwysig, ac mae ei chyfraniad i ddarparu gwasanaethau Cymraeg yn benodol yn Uned Hergest yn enfawr.
Bethesda
Mae Manuela’n byw ei bywyd yn Gymraeg ac mae’n angerddol dros ein hiaith.
“Mae cael fy nghynnwys yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2023 yr Eisteddfod Genedlaethol yn fraint enfawr,” meddai.
“Ers symud i Gymru a byw ym Methesda dwi wedi cael cymaint o gefnogaeth fel dysgwraig.
“Mae’r Gymraeg yn rhan bwysig o’r hyn sy’n gwneud y dref hon mor arbennig ac mae byw yma wedi fy helpu i ddatblygu fy sgiliau a theimlo’n rhan o’r gymuned.”
Dathlu’r deugain
Eleni, mae cystadleuaeth yn 40 oed, ac fe’i trefnir ar y cyd gan yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Cafodd 30 o unigolion eu cyfweld eleni – y nifer uchaf erioed – gydag unigolion o Gymru a thu hwnt wedi’u henwebu. Mae Manuela yn un o bedwar ar y rhestr fer gydag Alison Cairns o Lannerchymedd, Roland Davies o Lanidloes, a Tom Trevarthen o Aberystwyth.
Beirniaid y rownd gynderfynol oedd Liz Saville Roberts, Geraint Wilson Price a Hannah Thomas. Bydd Tudur Owen yn cymryd lle Hannah ar y panel ar gyfer y rownd derfynol yn ystod yr Eisteddfod ym mis Awst.
Roedd y beirniaid yn gwbl gytûn fod y safon eleni’n uchel iawn unwaith eto, ac y byddai wedi bod yn hawdd iawn i ddewis naw i fynd yn eu blaenau i’r rownd derfynol.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar lwyfan y Pafiliwn Mawr, ddydd Mercher 9 Awst, a bydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a £300, yn rhoddedig gan Gyngor Tref Pwllheli. Bydd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un, gyda’r wobr yma hefyd yn rhoddedig gan Gyngor Tref Pwllheli.
Llongyfarchiadau mawr Manuela, a phob lwc ym mis Awst!