Haf o hwyl i blant Dyffryn Ogwen

Partneriaeth Ogwen wedi cynnal llu o weithgareddau

Menna Thomas
gan Menna Thomas
IMG_1038
IMG_1041
IMG_1043
IMG_1045
IMG_1046
IMG_1047

Diolch yn fawr i bawb wnaeth ein cefnogi gyda’n gweithgareddau teulu dros yr haf.

Rydym yn falch iawn o fod gallu rhoi’r digwyddiadau yma ymlaen i’r gymuned. Ni fuasai hyn yn bosib heb gymorth gan Elusen Ogwen.

Braf iawn cael gweld y plant, rhieni a gwarchodwyr yn mwynhau’r ardal gyhoeddus Llys Dafydd (Pan roedd y tywydd yn caniatáu!)

Diolch yn fawr i Garddio Ogwen, Beics Ogwen, Partneriaeth Tirwedd y Carneddau, Artist Hannah Coates, Geraint o’r Gymdeithas Wiwer Goch ac Elusen Ogwen, am eu cymorth yn cynnal y sesiynau.